Problemau teithio

Bydd yr M48 Pont Hafren ar gau rhwng 7pm nos Wener 1 Gorffennaf a 6am ddydd Llun 4 Gorffennaf ar gyfer gwaith cynnal a chadw. Disgwylir y bydd hynny’n effeithio ar wasanaethau.

TrawsCymru

Bydd gwasanaeth T7 sy’n dechrau o Fryste am 19:03 nos Wener 1 Gorffennaf yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Pont Tywysog Cymru.

Bydd y dargyfeiriad yn ymestyn hyd teithiau yn ystod y diwrnodau cyfan y bydd y bont ar gau, felly bydd amserlen dros dro ar waith ddydd Sadwrn a dydd Sul.

T7 – Bryste – Cribbs Causeway – Cas-gwent – Magwyr

Yn ôl