Problemau teithio

Bws Caerdydd

Oherwydd Triathlon Bae Caerdydd, bydd amryw ffyrdd ar gau ar draws ardaloedd y Bae a Grangetown, sy’n golygu na fydd rhai bysiau’n gweithredu ac y bydd bysiau eraill yn cael eu dargyfeirio ddydd Sul 26 Mehefin rhwng amseroedd y bysiau cyntaf a 13:30.

 

Baycar (gwasanaeth 6)

Ni fydd unrhyw fysiau Baycar yn ôl ac ymlaen i’r Bae yn gweithredu rhwng amser y bws cyntaf a 13:25. Y bws cyntaf a fydd yn gweithredu o Arcêd Wyndham i’r Bae fydd y bws sy’n gadael am 13:25; y bws cyntaf a fydd yn gweithredu o’r Bae i ganol y ddinas fydd y bws sy’n gadael am 13:40.

 

Gwasanaeth 8

Rhwng amser y bws cyntaf a 13:30, bydd pob un o fysiau gwasanaeth 8 yn gorffen yn Holmesdale Street, wrth ymyl Grange Gardens. Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybr arferol o ganol y ddinas ar hyd Heol Clare i Heol Penarth, ac yna’n teithio ar hyd Paget Street a Bromsgrove Street i Holmesdale Street. Bydd bysiau o Grangetown yn dechrau wrth ymyl Grange Gardens, ac yn dilyn eu llwybr arferol ar hyd Heol y Gorfforaeth i Heol Clare.

Ni fydd arosfannau bysiau Heol y Gorfforaeth (i gyfeiriad y Bae), James Street, Adelaide Street, Cei’r Fôr-forwyn, Stryd Bute, Heol Hemmingway (Neuadd y Sir), Stryd Pen y Lanfa, Plas Bute a Chanolfan y Mileniwm yn cael eu gwasanaethu.

 

Gwasanaeth 9

Rhwng amser y bws cyntaf a 10:30, bydd pob un o fysiau gwasanaeth 9 yn gorffen yn Holmesdale Street, wrth ymyl Grange Gardens. Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybr arferol o ganol y ddinas ar hyd Heol Clare i Heol Penarth, ac yna’n teithio ar hyd Paget Street a Bromsgrove Street i Holmesdale Street. Bydd bysiau o Grangetown yn dechrau wrth ymyl Grange Gardens, ac yn dilyn eu llwybr arferol ar hyd Heol y Gorfforaeth i Heol Clare.

Ni fydd arosfannau bysiau Heol Penarth, Clive Street, Heol Fferi, International Drive, Olympian Drive (y Pentref Chwaraeon), Watkiss Way a Dunleavy Drive yn cael eu gwasanaethu.

 

Gwasanaeth 99

Rhwng amser y bws cyntaf a 13:30, bydd pob un o fysiau gwasanaeth 99 yn teithio o ganol y ddinas i Barons Court ar hyd Heol Penarth, i’r ddau gyfeiriad.

Ni fydd arosfannau bysiau Rhodfa Lloyd George, Canolfan y Mileniwm, Cei’r Fôr-forwyn a Techniquest yn cael eu gwasanaethu, i’r ddau gyfeiriad.

Yn ôl