Easyway Minibus Hire
Bydd Easyway Minibus Hire yn gorffen masnachu ar 31 Gorffennaf, sy’n golygu bod yr holl lwybrau y mae’r cwmni’n eu gweithredu mewn perygl. Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn ystyried opsiynau ar gyfer dyfodol y llwybrau dan sylw gyda gweithredwyr eraill.
Os nad oes gwasanaethau ar gael, caiff cwsmeriaid eu cynghori i ddefnyddio gwasanaethau bws eraill sy’n gweithredu gerllaw, neu ystyried defnyddio’r gwasanaeth Teithiwr Tref a weithredir gan Gludiant Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr.
Dyma’r gwasanaethau yr effeithir arnynt:
16 – Pen-y-bont ar Ogwr - Betws
Caiff y gwasanaeth hwn ei ddarparu ar hyn o bryd gan Easyway a fydd yn gorffen masnachu ar ôl dydd Gwener 29 Gorffennaf. Hyd yma, nid oes unrhyw weithredwr arall wedi cofrestru i weithredu’r gwasanaeth neu’r llwybr.
49 – Pen-y-bont ar Ogwr - Oaklands
Caiff y gwasanaeth hwn ei ddarparu ar hyn o bryd gan Easyway a fydd yn gorffen masnachu ar ôl dydd Gwener 29 Gorffennaf. Hyd yma, nid oes unrhyw weithredwr arall wedi cofrestru i weithredu’r gwasanaeth neu’r llwybr.
81 – Pen-y-bont ar Ogwr – Pen-y-fai
Caiff y gwasanaeth hwn ei ddarparu ar hyn o bryd gan Easyway a fydd yn gorffen masnachu ar ôl dydd Gwener 29 Gorffennaf. Hyd yma, nid oes unrhyw weithredwr arall wedi cofrestru i weithredu’r gwasanaeth neu’r llwybr.
32A – Caerdydd Canolog – Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Mae Bws Caerdydd wedi cadarnhau y bydd, o ddydd Llun 1 Awst ymlaen, yn dechrau gweithredu hen wasanaeth 32A Easyway ac yn gweithredu gwasanaeth 32 rhwng Canol Caerdydd a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Mae gwybodaeth am yr amserlen ar gael yma.
88 – Y Barri - Penarth
Bydd y gwasanaeth hwn, a ddarperir gan Easyway ar hyn o bryd, yn cael ei ddarparu gan New Adventure Travel o ddydd Iau 01 Medi 2022 ymlaen (bydd Easyway yn gorffen ei ddarparu ddydd Mercher 31 Awst 2022). Bydd amserlen a llwybr y gwasanaeth yn parhau’r un fath.
B3 – Y Barri – Y Barri