Problemau teithio

Bws Caerdydd

Bydd rhan isaf Heol y Porth yn ailagor, ac o ganlyniad bydd rhai newidiadau i arosfannau bysiau yng nghanol y ddinas o ddydd Llun 4 Gorffennaf ymlaen.

Newidiadau i arosfannau bysiau o 4 Gorffennaf ymlaen:

  • Bydd arhosfan JA yn Stryd Wood, y tu allan i swyddfeydd Llywodraeth y DU, yn ailagor ar gyfer gwasanaethau 13, 15, 25, 62/63, 64, 66 a 96/96A (ac yn cymryd lle’r arhosfan dros dro yn Heol y Porth). Bydd bysiau gwasanaeth 95 sy’n teithio o ganol y ddinas i Ysbyty’r Waun hefyd yn aros wrth arhosfan JA.
  • Bydd yna arhosfan bysiau newydd, cod JR, yn Stryd Wood ar gyfer bysiau sy’n teithio i gyfeiriad y gorllewin, rhwng adeilad y BBC ac adeilad Prifysgol Caerdydd, ar gyfer gwasanaethau 4, 92/92B, 93, 94 a 95.

Bydd gwasanaeth 4 yn dechrau ac yn gorffen wrth ymyl arhosfan JR, sef yr arhosfan newydd yn Stryd Wood.

Bydd gwasanaethau 13, 15, 25, 62/63, 64, 66, 95 (i Ysbyty’r Waun) a 96/96A yn dechrau ac yn gorffen wrth ymyl arhosfan JA yn Stryd Wood (y tu allan i swyddfeydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi) yn lle’r arhosfan dros dro yn Heol y Porth. 

Bydd gwasanaethau 44/45 a 49/50 yn dechrau ac yn gorffen wrth ymyl y Royal Hotel yn Heol y Porth, ac ni fyddant yn aros mwyach wrth ymyl arhosfan JJ ger Arcêd Wyndham.

Bydd gwasanaethau 92/92B, 93, 94 a 95 yn dechrau ac yn gorffen wrth ymyl arhosfan JR, sef yr arhosfan newydd yn Stryd Wood, yn hytrach nag wrth ymyl y Philharmonic.

Bydd gwasanaethau 96/96A yn dechrau ac yn gorffen wrth ymyl arhosfan JA yn Stryd Wood (y tu allan i swyddfeydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi) yn lle’r arhosfan dros dro yn Heol y Porth. 

Mae llun o’r arosfannau ar gael yma.

Newidiadau o ddydd Sul 10 Gorffennaf ymlaen:

O ddydd Sul 10 Gorffennaf ymlaen, bydd gwasanaethau 8, 9 ac X45 o Fae Caerdydd / y Pentref Chwaraeon i gyfeiriad Ysbyty’r Waun / Llaneirwg yn defnyddio arhosfan JJ yn Heol Eglwys Fair (Arcêd Wyndham) yn hytrach nag arhosfan JB yn Stryd Wood.

Mae map newydd o arosfannau bysiau canol y ddinas ar gael gan Fws Caerdydd yma.

Yn ôl