Problemau teithio

Stagecoach yn Ne Cymru

Bydd yr A4054 Cardiff Road yng Nglyn-taf ar gau o 25 Gorffennaf tan fis Medi, a bydd hynny’n effeithio ar wasanaethau 120 a 132 Stagecoach. Ni fydd y gwasanaethau hynny’n gallu gwasanaethu Rhydyfelin, y Ddraenen-wen a Glan-bad, a byddant yn cael eu dargyfeirio ar hyd yr A470 ac yn ailymuno â’u llwybr arferol wrth ymyl Ystâd Ddiwydiannol Trefforest.

Bydd gwasanaeth bws gwennol rhad ac am ddim a ddarperir gan NAT Group yn gweithredu o Erddi Glantaf (Ysgol y Babanod Glantaf gynt) i Drefforest ac yn gwasanaethu cymunedau Rhydyfelin, y Ddraenen-wen a Glan-bad.

Bydd y bws gwennol yn gadael Gerddi Glantaf ac yn cysylltu â gwasanaethau 120 a 132 wrth ymyl arhosfan bysiau’r Pottery ar Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, er mwyn i deithwyr allu mynd yn eu blaen i Ffynnon Taf, Caerffili a Chaerdydd.

Bydd hefyd yn gweithredu i’r cyfeiriad arall i gwrdd â gwasanaethau wrth ymyl arhosfan bysiau’r Pottery, er mwyn i deithwyr allu teithio i gyfeiriad y gogledd i Lan-bad, y Ddraenen-wen a Rhydyfelin.

 

Mae gwybodaeth am amserlen y bws gwennol ar gael yma.

Yn ôl