Problemau teithio

Mae Pride Cymru yn dychwelyd i Gaerdydd ar 27 a 28 Awst 2022. Bydd parêd y penwythnos yn digwydd ar y dydd Sadwrn.

Er mwyn i’r parêd allu digwydd yn ddiogel ar 27 Awst, bydd rhai o ffyrdd canol y ddinas ar gau a bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio rhwng 10:30 a 14:00.

Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r dudalen hon ag unrhyw wybodaeth berthnasol wrth i ni ei chael gan weithredwyr.

 

 

Bws Caerdydd

Bydd gwasanaethau 1, 2, 5, 6 (baycar), 99 ac X45 yn dechrau ac yn gorffen yn Sgwâr Callaghan (y tu allan i Eversheds). Bydd gwasanaethau 7 ac X45 rhwng Heol Penarth / Heol Clare a Sgwâr Callaghan yn teithio ar hyd Heol Penarth i’r ddau gyfeiriad ac ni fyddant yn gwasanaethu Heol Clare na Stryd Wood.

 

Bydd gwasanaethau 8 a 9 i gyfeiriad Ysbyty Athrofaol Cymru (Ysbyty’r Waun) yn dilyn eu llwybr arferol i Heol Penarth / Heol Clare, yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Heol Penarth, Sgwâr Callaghan a thanffordd Stryd Bute i Rodfa Bute, ac yna’n parhau ar hyd eu llwybr arferol i gyfeiriad Ffordd Churchill a’r ysbyty. Bydd teithiau i gyfeiriad Bae Caerdydd / y Pentref Chwaraeon yn dilyn eu llwybr arferol i Rodfa Bute, yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd tanffordd Stryd Bute, Sgwâr Callaghan a Heol Penarth, ac yna’n parhau ar hyd eu llwybr arferol wrth gyffordd Heol Penarth / Heol Clare.

Bydd gwasanaethau 13, 15, 17, 18, 25, 32, 61, 62, 63, 64 a 66 yn mynd i mewn i ganol y ddinas ar hyd Arglawdd Fitzhamon a Phont Stryd Wood.

Bydd gwasanaethau 11, 44, 45, 49, 50, 52, 57 a 58 yn dechrau ac yn gorffen yn Ffordd Churchill ac ni fyddant yn gwasanaethu unrhyw arosfannau bysiau eraill yng nghanol y ddinas.

Bydd gwasanaethau 21, 23, 24, 27, 28, 28A, 30 a 35 yn dechrau ac yn gorffen yn Heol y Brodyr Llwydion.

Bydd gwasanaeth 96 yn mynd i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville ac Arglawdd Fitzhamon i Stryd y Parc lle bydd yn gorffen. Bydd teithiau o Gaerdydd i gyfeiriad y Barri yn dechrau o arhosfan JR Stryd Wood (y tu allan i adeilad BBC Cymru).

Ni fydd y parêd yn effeithio ar wasanaethau 51, 53, 92, 94, 95 ac X59.

 

Stagecoach yn Ne Cymru

Bydd gwasanaethau 26, 124, 132, 136, T4 ac X3 yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion o 14:30 ymlaen.

Bydd gwasanaeth 122 yn dechrau ac yn gorffen ei daith yn rhan isaf Heol y Gadeirlan o 14:30 ymlaen.

Bydd gwasanaeth 124 yn teithio ar hyd Rhodfa’r Gorllewin i Heol y Brodyr Llwydion.

Bydd gwasanaethau 26, 132, 136 a T4 hefyd yn cael eu dargyfeirio ar hyd Plas-y-Parc i Heol y Brodyr Llwydion oherwydd bod Heol y Gogledd ar gau rhwng Heol Colum a Boulevard de Nantes.

Yn ôl