Problemau teithio

Stagecoach yn Ne Cymru

Bydd y gwasanaethau canlynol gan Stagecoach yn cael eu hatal yn barhaol ar 28 Awst 2022. Os bydd rhagor o wybodaeth yn dod ar gael gan y gweithredwr neu’r awdurdod lleol, byddwn yn ei rhannu ar y dudalen hon.

Gwasanaeth 3 – Bryn-mawr – Y Fenni

Gwasanaeth 46 – Y Fenni – Ystâd Knoll

Gwasanaeth 47 – Llanelen – Underhill Crescent

Gwasanaeth 83 – Y Fenni – Trefynwy

 

Mae Adventure Travel wedi sicrhau cytundeb i weithredu’r gwasanaethau canlynol (a gâi eu gweithredu o’r blaen gan Stagecoach yn Ne Cymru) o’r wythnos sy’n cychwyn ar ddydd Llun 29 Awst ymlaen.

A3 (sef llwybr ‘3’ o’r blaen), A6 (sef rhan o lwybr ‘3’ o’r blaen), A5 (sef llwybr '46' o’r blaen) a 68 (sef llwybr '83' o’r blaen).

Bydd pob llwybr yn gwasanaethu’r un lleoliadau ag o’r blaen.

Mae llwybr A3 yn galluogi teithwyr i deithio rhwng y Fenni a Bryn-mawr. Mae’n bosibl mai llwybr A5 yw un o’r llwybrau byrraf yng Nghymru, oherwydd dim ond 6 munud y mae’n ei gymryd i deithio o’r Fenni i Ystâd Knoll ac yn ôl. Bydd llwybr A6 yn mynd â chi o’r Fenni i Ystâd Hollywell, ac yn olaf mae llwybr 68 yn gweithredu rhwng y Fenni a Threfynwy. 

 

Mae gwybodaeth am amserlen pob gwasanaeth i’w chael isod:

A3 – Y Fenni – Bryn-mawr (Amserlen canol yr wythnos)

A3 – Y Fenni – Bryn-mawr (Amserlen dydd Sadwrn)

 

A5 – Y Fenni – Ystâd Knoll (Amserlen canol yr wythnos)

A5 – Y Fenni – Ystâd Knoll (Amserlen dydd Sadwrn)

 

A6 – Y Fenni – Ystâd Hollywell (Amserlen canol yr wythnos)

A6 – Y Fenni – Ystâd Hollywell (Amserlen dydd Sadwrn)

 

68 – Y Fenni – Trefynwy (Amserlen canol yr wythnos)

68 – Y Fenni – Trefynwy (Amserlen dydd Sadwrn)

 

Yn ôl