Problemau teithio

Stagecoach yn Ne Cymru

Bydd Hirwaun Road yn parhau i fod ar gau tan fis Medi. Mae Brecon Road ar gau rhwng cylchfan yr A465 a chyffordd Cynon Terrace.

Bydd newidiadau’n parhau i fod ar waith ar gyfer y gwasanaethau canlynol:

Gwasanaethau 7, 8 a 9 o Aberdâr:

Bydd bysiau’n teithio o gylchfan Hirwaun ar hyd yr A465 i gylchfan Rhigos ac ar hyd yr A4059, ac yn troi i’r dde i mewn i Rhigos Rd. Yna, byddant yn mynd heibio i’r Cloc ac ar hyd y Stryd Fawr ac yn ymuno â’r Tramway a Cynon Terrace. Byddant wedyn yn troi i’r dde ym mhen draw Cynon Terrace i mewn i Brecon Rd, yn teithio hyd at dafarn y Lamb ac yn ailymuno â’u llwybr arferol i Ferthyr, Glyn-nedd neu Benderyn.

 

Gwasanaethau 7, 8 a 9 i gyfeiriad Aberdâr:

Bydd bysiau’n dilyn eu llwybr arferol hyd at Cynon Terrace, yna byddant yn troi i’r dde i mewn i Brecon Road ac yn mynd ar hyd Rhigos Rd. Byddant wedyn yn troi i’r chwith er mwyn teithio ar hyd yr A4059 nes y byddant yn cyrraedd cylchfan Rhigos. Yna, byddant yn teithio ar hyd yr A465 yn ôl i gylchfan Hirwaun ac yn ailymuno â’u llwybr arferol o Drenant i Aberdâr.

 

Yn ôl