Problemau teithio

Trafnidiaeth Cymru

Ni fydd aelodau ASLEF 16 o gwmnïau gweithredu trenau (TOC) - gan gynnwys Avanti, CrossCountry, Great Western Railway a West Midlands Trains, sydd i gyd yn rhedeg gwasanaethau yng Nghymru/y tu allan i Gymru - yn gweithio unrhyw oramser o ddydd Llun 3 Gorffennaf i ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf yn gynhwysol.

Mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) wedi cyhoeddi y bydd 14 o Gwmnïau Gweithredu Trenau (heb gynnwys TrC) yn cynnal gweithredu diwydiannol ar dydd Iau 20 Gorffennaf, dydd Sadwrn 22 Gorffennaf a Sadwrn 29 Gorffennaf.

Nid yw Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn rhan o weithredu diwydiannol gan aelodau o undeb y gyrwyr trenau ASLEF a aelodau o mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT).

Bydd gwasanaethau TrC yn rhedeg ond bydd gwasanaethau gweithredwyr trenau eraill ar y rhwydwaith rheilffyrdd ledled Cymru, Lloegr a’r Alban yn gyfyngedig. Mae rhai o’n gwasanaethau’n debygol o fod yn hynod o brysur o ganlyniad i’r amserlen sydd wedi'i chwtogi'n sylweddol a roddwyd ar waith gan weithredwyr eraill. 

Bydd y gweithredu diwydiannol hwn yn effeithio ar y dyddiadau canlynol: 

  • Dydd Llun 3 Gorffennaf i Dydd Sadwrn 8 Gorffennaf yn gynhwysol
  • Dydd Iau 20 Gorffennaf
  • Dydd Sadwrn 22 Gorffennaf
  • Dydd Sadwrn 29 Gorffennaf


Gwiriwch eich taith gyfan, gan gynnwys gwasanaethau a weithredir gan weithredwyr rheilffyrdd eraill gan y gallai lefel eu gwasanaeth fod yn wahanol i Trafnidiaeth Cymru.

Dydd Llun 3 Gorffennaf i ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf yn gynhwysol
O ganlyniad i'r gwaharddiad goramser ymhlith aelodau ASLEF mewn 16 o gwmnïau gweithredu trenau, gall amserlenni y gweithredwyr hynny fod yn destun newidiadau ymlaen llaw neu ar fyr rybudd.

Bydd gwasanaethau TrC yn rhedeg yn ôl yr amserlen, ond gall gwasanaethau fod yn brysurach nag arfer oherwydd y camau diwydiannol sy'n cael eu cymryd gan y gweithredwyr, yn enwedig ar y llwybrau isod: 

  • Caerfyrddin - Abertawe - Pen-y-bont ar Ogwr - Canol Caerdydd - Casnewydd - Cyffordd Twnnel Hafren
  • Caerloyw - Cheltenham
  • Gogledd Cymru - Caer - Crewe - Manceinion
  • Amwythig - Birmingham International

Yn anffodus, ni allwn ddiweddaru Cynlluniwr Taith, Amserlenni a Map Teithio Traveline Cymru i adlewyrchu gwybodaeth amser real am wasanaethau bws a thrên y bydd y gweithredu diwydiannol yn effeithio arnynt.

Disgwylir problemau teithio ar y diwrnodau cyn ac ar ôl y gweithredu diwydiannol. Mae’n bosibl y bydd y problemau mawr ar y rheilffyrdd yn effeithio ar drefniadau teithio ar y ffyrdd ac ar fysiau. Dylech ddisgwyl gwasanaethau prysur, oedi ac achosion o ganslo teithiau.

  • I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru yma.
  • I wirio’r sefyllfa ar y ffyrdd, ewch i Traffig Cymru.
  • I gael gwybodaeth am y sefyllfa ar Bontydd Hafren, ewch i wefan Pontydd Hafren.
  • Dilynwch ni ar Twitter @TravelineCymru lle byddwn yn trydar ac yn aildrydar diweddariadau am y gweithredu diwydiannol.
Yn ôl