Problemau teithio

Hanner Marathon Caerdydd

Mae un o ddigwyddiadau mwyaf Cymru o ran codi arian yn ei ôl yr hydref hwn. Bydd Hanner Marathon Caerdydd Wizz Air yn dychwelyd ddydd Sul yma (2 Hydref) gyda thros 25,000 o redwyr.

Bydd llwybr y ras yn mynd heibio i rai o dirnodau mwyaf eiconig Caerdydd, a fydd yn cynnwys Castell Caerdydd, Stadiwm Principality, Canolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd a Chanolfan Ddinesig Caerdydd.

Ewch i wefan Hanner Marathon Caerdydd i gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad.

 

Gallwch weld llwybr llawn y digwyddiad yma:

Llwybr Hanner Marathon Caerdydd Wizz Air gan Run 4 Wales (R4W) 

 

Dydd Sadwrn 1 Hydref

Bydd gweithredu diwydiannol arfaethedig ddydd Sadwrn 1 Hydref (y diwrnod cyn Hanner Marathon Caerdydd Wizz Air) yn effeithio ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus dros y penwythnos. Mae’n bosibl y bydd y problemau mawr ar y rheilffyrdd yn effeithio ar deithiau ar y ffyrdd ac ar fysiau. Dylech ddisgwyl i wasanaethau fod yn brysur a dylech ddisgwyl oedi ac achosion o ganslo gwasanaethau.

 

I gael rhagor o wybodaeth cyn teithio, ewch i’n tudalen am y gweithredu diwydiannol yma.

 

Dydd Sul 2 Hydref

Bwriedir cau ffyrdd ar ddiwrnod yr hanner marathon, a bydd hynny’n effeithio ar wasanaethau bws. Disgwylir problemau teithio ac oedi ar wasanaethau. Felly, cyn i chi deithio, darllenwch y newidiadau isod a wnaed gan weithredwyr:

 

Adventure Travel

 

Bws Caerdydd

Gwasanaeth

Dargyfeiriad

6 baycar

Yn anffodus, ni fydd y gwasanaeth hwn yn gweithredu tan 14:00 oherwydd bod mwyafrif y ffyrdd ar hyd ei lwybr ar gau.

8 a 9

O amser y bws cyntaf tan oddeutu 10:30, bydd bysiau rhwng Bae Caerdydd / y Pentref Chwaraeon ac Ysbyty’r Waun yn teithio ar hyd Plas Dumfries, Boulevard de Nantes, Plas-y-Parc, Heol Colum a Heol y Gogledd i’r ddau gyfeiriad. Ni fydd arosfannau bysiau yn Heol yr Eglwys Newydd, Heol y Crwys, Heol y Plwca a Heol Casnewydd yn cael eu gwasanaethu.

Rhwng oddeutu 10:30 a 15:15, bydd bysiau i Ysbyty’r Waun ac o Ysbyty’r Waun yn cael eu dargyfeirio ar hyd Heol y Gogledd.

Bydd gwasanaeth 8 yn dechrau ac yn gorffen wrth ymyl Cei’r Fôr-forwyn (ac nid Neuadd y Sir) o amser y bws cyntaf tan 12:30. Ni fydd yr arosfannau bysiau canlynol yn cael eu gwasanaethu: Neuadd y Sir, Harbwr Scott, Cei Britannia, Canolfan y Mileniwm.

11

Bydd bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol Casnewydd/Heol y Plwca rhwng 09:00 a 13:00.

13

Bydd bysiau 09:33 a 10:33 o’r Ddrôp a bysiau 10:05 a 11:05 o ganol y ddinas i’r Ddrôp yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Nhreganna (wrth ymyl Home Bargains). 

Bydd bws 11:33 o’r Ddrôp a bws 12:05 i’r Ddrôp yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Stryd y Parc. Bydd bysiau’n cyrraedd ac yn gadael y ddinas ar hyd Stryd Tudor (o gyfeiriad canol y ddinas) ac Arglawdd Fitzhamon (i gyfeiriad canol y ddinas).

17 ac 18

O amser y bws cyntaf tan 09:00, bydd bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith wrth ymyl Gwesty’r Royal yn Heol y Porth. Ni fydd arosfannau bysiau KL Heol y Porth a Phont Caerdydd yn cael eu gwasanaethu yn ystod y cyfnod dan sylw.

Rhwng 09:00 ac oddeutu 11:00, bydd bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Nhreganna ac ni fyddant yn gallu gwasanaethu unrhyw arosfannau bysiau yng nghanol y ddinas. Bydd pob taith yn dechrau ac yn gorffen wrth ymyl yr arhosfan bysiau y tu allan i Home Bargains yn Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.

Rhwng 11:00 a 12:00, bydd bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith wrth ymyl Gwesty’r Royal yn Heol y Porth. Ni fydd arosfannau bysiau KL Heol y Porth a Phont Caerdydd yn cael eu gwasanaethu yn ystod y cyfnod dan sylw.

21 a 23

O amser y bws cyntaf tan 12:00, bydd bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion (ar ochr y New Theatre o’r heol).

24 (o gyfeiriad canol y ddinas)

O amser y bws cyntaf tan 12:00, bydd bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion (ar ochr y New Theatre o’r heol).

25

Bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion tan 12:00.

Bydd y ddau fws cyntaf o gyfeiriad canol y ddinas yn dechrau yn Nhreganna (wrth ymyl Home Bargains) am 09:24 a 10:45. 

Bydd bws 11:15 yn dechrau o Stryd y Parc a bydd yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor. Ni fydd arosfannau bysiau Heol y Porth a Phont Caerdydd yn cael eu gwasanaethu.

27

O amser y bws cyntaf tan 12:00, bydd bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion (ar ochr y New Theatre o’r heol). Ni fydd arosfannau bysiau Ffordd y Brenin a Heol y Porth yn cael eu gwasanaethu.

28B

O amser y bws cyntaf tan 12:00, bydd bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion.

O amser y bws cyntaf tan 10:30, bydd bysiau’n teithio ar hyd Plas-y-Parc, Heol Colum, Heol y Gogledd, Heol Caerffili a Heathwood Road i’r ddau gyfeiriad. Ni fydd arosfannau bysiau rhwng Llyfrgell Rhydypennau a chanol y ddinas yn cael eu gwasanaethu, gan gynnwys arosfannau Heol Pont-yr-Aes a Ffordd Churchill.

Rhwng 10:30 a 14:30, bydd bysiau’n teithio ar hyd Boulevard de Nantes, Heol y Gogledd, Heol Caerffili a Heathwood Road i’r ddau gyfeiriad. Ni fydd arosfannau bysiau rhwng West Grove a Llyfrgell Rhydypennau yn cael eu gwasanaethu yn ystod y cyfnod dan sylw.

30

O amser y bws cyntaf tan 13:00, bydd bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol Casnewydd wrth ymyl y gyffordd â Heol y Plwca.

35

O amser y bws cyntaf tan 12:00, bydd bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion. At hynny, o amser y bws cyntaf tan 14:30, bydd bysiau’n dilyn llwybr gwahanol rhwng canol y ddinas a Chyfnewidfa Gabalfa. Bydd bysiau sy’n teithio i gyfeiriad Gabalfa yn mynd ar hyd Heol y Gogledd, a bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas yn mynd ar hyd Heol y Crwys, Ffordd y Goron a Heol y Gogledd.

44 a 45

O amser y bws cyntaf tan 09:00, bydd bysiau’n dechrau eu taith wrth ymyl Arcêd Wyndham ond byddant yn cyrraedd canol y ddinas ar hyd Rhodfa’r Orsaf, Rhodfa Bute a Heol y Tollty – ni fydd arosfannau bysiau Plas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion a Stryd y Castell yn cael eu gwasanaethu.

Rhwng 09:00 a 13:00, bydd bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol Casnewydd wrth ymyl y gyffordd â Heol y Plwca.

49 a 50

O amser y bws cyntaf tan 09:00, bydd bysiau’n dechrau eu taith wrth ymyl Arcêd Wyndham ond byddant yn cyrraedd canol y ddinas ar hyd Rhodfa’r Orsaf, Rhodfa Bute a Heol y Tollty – ni fydd arosfannau bysiau Plas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion a Stryd y Castell yn cael eu gwasanaethu.

Rhwng 09:00 a 13:00, bydd bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol Casnewydd wrth ymyl y gyffordd â Heol y Plwca.

52

O amser y bws cyntaf tan 09:00, bydd bysiau’n dechrau eu taith yn Heol y Tollty.

O 09:00 tan 13:00, bydd bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol Casnewydd wrth ymyl y gyffordd â Heol y Plwca.

At hynny, rhwng 09:00 a 14:00, bydd bysiau’n teithio ar hyd Heol Casnewydd a Colchester Avenue i’r ddau gyfeiriad ac ni fyddant yn gwasanaethu Heol Albany na Heol Richmond.

57 a 58

O amser y bws cyntaf tan 09:00, bydd bysiau’n dechrau eu taith yn Heol y Tollty.

O 09:00 tan 13:00, bydd bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol Casnewydd wrth ymyl y gyffordd â Heol y Plwca.

At hynny, rhwng 09:00 a 14:00, bydd bysiau’n teithio ar hyd Heol Casnewydd a Colchester Avenue i’r ddau gyfeiriad ac ni fyddant yn gwasanaethu Heol Albany na Heol Richmond.

61

Bydd bysiau 06:25 a 07:25 o Bentre-baen yn cyrraedd canol y ddinas ar hyd Stryd Neville ac Arglawdd Fitzhamon ac yn gorffen eu taith yn Stryd y Parc. Ni fydd arosfannau bysiau Heol y Porth yn cael eu gwasanaethu.

Bydd bysiau 06:50 a 08:15 o ganol y ddinas yn dechrau eu taith yn Stryd y Parc ac yn gadael y ddinas ar hyd Stryd Tudor a Stryd Neville. Ni fydd arosfannau bysiau Heol y Porth a Phont Caerdydd yn cael eu gwasanaethu. 

O 09:00 tan 11:00, bydd bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Nhreganna (wrth ymyl Home Bargains) – yr arhosfan olaf ar gyfer bysiau i gyfeiriad canol y ddinas fydd Wyndham Crescent. Bydd bysiau i gyfeiriad Pentre-baen yn teithio ar hyd Heol Ddwyreiniol y Bont-faen a Heol Llandaf cyn ailymuno â’u llwybr arferol yn Romilly Road.

O 11:00 tan 12:00, bydd bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Stryd y Parc a byddant yn cyrraedd y ddinas ar hyd Stryd Neville ac Arglawdd Fitzhamon. Bydd bysiau’n gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor a Stryd Neville. Ni fydd arosfannau bysiau Heol y Porth a Phont Caerdydd yn cael eu gwasanaethu.

63

Bydd y ddau fws cyntaf i gyfeiriad Danescourt yn dechrau yn Nhreganna (wrth ymyl Home Bargains) a byddant yn teithio ar hyd Heol Llandaf i Penhill cyn ailymuno â’u llwybr arferol.

92 a 94

Bydd bysiau 08:50, 09:20, 09:50, 10:20, 10:50 a 11:20 o Gaerdydd yn dechrau eu taith yn Stryd Wood (ac nid wrth ymyl y Philharmonic) a byddant yn teithio ar hyd Stryd Tudor, Virgil Street, Cornwall Street, North Clive Street, Clive Street, Heol Fferi (ASDA), yr A4232, Cyfnewidfa Lecwydd, Llandochau, Redlands Road, Foxglove Rise, Bramble Rise, Cowslip Drive a Pill Street heb wasanaethu Heol Penarth.

Bydd bysiau 09:38, 10:17, 10:47, 11:17, 11:47 o ganol tref Penarth yn dilyn eu llwybr arferol i Windsor Road ac yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Pill Street, y Cowslip, Redlands Road, Llandochau, Cyfnewidfa Lecwydd, yr A4232, Heol Fferi, Clive Street, North Clive Street, Cornwall Street, Virgil Street, Heol Clare, Stryd Clare, Despenser Street ac Arglawdd Fitzhamon i Stryd Wood. Ni fydd arosfannau bysiau ar hyd Heol Penarth a’r tu allan i Ganolfan Hamdden Cogan yn cael eu gwasanaethu.

96A

O amser y bws cyntaf tan 11:00, bydd bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Nhreganna (wrth ymyl Home Bargains). Bydd bysiau’n teithio ar hyd Heol Ddwyreiniol y Bont-faen yn hytrach na Heol Lansdowne. 

X59

O amser y bws cyntaf tan 13:00, bydd bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol Casnewydd wrth ymyl y gyffordd â Heol y Plwca.

 

Newport Bus

Route 30 will start and end on Newport Road near its junction with City Road - Royal Infirmary stops, from the first bus service of the day until 13:00.

 

Stagecoach yn Ne Cymru

All Stagecoach services will start and finish at Greyfriars Road all day.

From first bus until 10:45, buses will run via Column Road, Park Place, Boulevard de Nantes and Kingsway into Greyfriars Road. From Greyfriars Road buses will run via Park Place and Column Road. 

From 10:45 until 16:00, buses will run via North Road, Kingsway into Greyfriars Road. From Greyfriars Road buses will run via Boulevard de Nantes and North Road.  

Service 122 will run via Gabalfa Interchange & North Road and will not serve Cathedral Road all day. 

Yn ôl