Stagecoach yn Ne Cymru
Ar 9 Rhagfyr bydd ffordd yn cael ei chau dros y penwythnos, rhwng 20:00 nos Wener 9 Rhagfyr a 06:00 fore Llun 12 Rhagfyr.
Bydd yr A465 rhwng cylchfan Hirwaun a chylchfan Cefn-coed ar gau, sy’n golygu na fydd gwasanaethau 6 a 9 yn gallu teithio’n ôl ac ymlaen i Ferthyr Tudful.
Nos Wener 9 Rhagfyr
Gwasanaeth 9
Bydd bws 19:45 o Aberdâr i Ferthyr Tudful yn teithio mor bell â Maescynon, ac yna’n aros tan yr amser y mae disgwyl iddo ddychwelyd i Aberdâr.
Dydd Sadwrn 10 Rhagfyr
Gwasanaethau 6 a 9
Bydd y gwasanaethau hyn yn gorffen eu taith yn Llwydcoed a Maescynon.
Mae’r amserlenni ar gyfer y cyfnod tra bydd y ffordd ar gau i’w gweld isod:
Gwasanaeth 7 - Aberdâr drwy Benderyn yn ôl ac ymlaen i Ferthyr Tudful
Bydd y gwasanaeth hwn yn gweithredu’n ôl yr arfer i Benderyn, yna’n teithio ar hyd yr A4059 a’r A470 i Gronfa Ddŵr Aberhonddu ac yn mynd yn ei flaen i Barc Siopa Cyfarthfa. Bydd yn dilyn yr un llwybr wrth deithio’n ôl i Aberdâr.
Dydd Sul 11 Rhagfyr
Ni fydd gwasanaeth 9 yn gweithredu i Ferthyr Tudful, a bydd yn gorffen ei daith ym Maescynon.