Problemau teithio

Arriva Cymru, M&H Coaches, P&O Lloyd

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael gwybod am newidiadau i wasanaethau bws yn Ninbych a fydd yn cael eu gweithredu oherwydd bod ffyrdd ar gau rhwng dydd Llun, 16 Ionawr - dydd Gwener, 20 Ionawr a rhwng dydd Llun, 23 Ionawr - dydd Gwener 27 Ionawr 2023.

Oherwydd bod Stryd y Bont, Dinbych ar gau rhwng y dyddiau hyn, bydd gwasanaethau bws yn cael eu diwygio a dargyfeirio o'u llwybr arferol. Sylwch na fydd unrhyw draffig yn gallu mynd i Stryd y Bont yn ystod y cyfnod hwn a dylid ystyried llwybrau eraill oherwydd y gwaith cynnal a chadw trydanol hanfodol.

 

Bysus Arriva 51 a X51

Bydd bysiau cyn 7.30yb ond yn gwasanaethu arhosfan bys Plas Pigot ar ffordd Rhuthun i gyfeiriad Rhuthun, ac arhosfan bys Tafarn Y Railway i gyfeiriad y Rhyl.

Bydd gwasanaeth gwennol tacsi rhad ac am ddim yn gweithredu rhwng 7.30yb a 6.00yp i drosglwyddo teithwyr o Lenton Pool a Vale St i Ffordd Rhuthun i gwrdd â bysiau – ac i’r gwrthwyneb. Bydd tacsis yn aros ym Mhwll y Grawys ar yr adeg y disgwylir y bws ac yn cario’r rhai sydd angen y gwasanaeth i Ffordd Rhuthun, ac yn codi'r rhai sy'n gadael y bws sy'n cyrraedd yn ôl i fyny i Bwll y Grawys.

Bydd y gwasanaethau canlynol yn gwasanaethu Lenton Pool a Ffordd Rhuthun yn ynyg.

20:50 Y Rhyl-Dinbych

21:40 Pwll Lenton i Langwyfan a dychwelyd 76

22:20 Dinbych- Y Rhyl

23:00 Rhyl-Dinbych

23:55 Dinbych-Y Rhyl

Bydd pob gwasanaeth min nos arall yn stopio yn Ffordd Rhuthun yn ynyg.

 

M&H

Bydd Arosfannau Bws Dros Dro yn eu lle ar Station Rd y tu allan i Aldi a Theatr Twm O’r Nant

Bydd gwasanaeth 76 yn stopio ym Lenton Pool, Heol yr Orsaf a Ffordd Rhuthun YN UNIG. Ni fydd yn stopio ar Vale St.

66 Fflecsi Ni fydd yn stopio ar Vale St. Bydd yn gwasanaethu Lenton Pool a'r arhosfan dros dro ar Station Rd.

 

P&O Lloyd/M&H

Dim ond yn Lenton Pool y bydd gwasanaeth 14 yn stopio. Bydd yn gadael Dinbych drwy Ffordd Ffynnon Barker a thrwy Barc Busnes Dinbych.

Bydd gwasanaeth arferol yn rhedeg ar ddydd Sadwrn 21ain a dydd Sul 22ain

Yn ôl