
Traws Cymru, Richard Bros
Gan y bydd ffordd ar gau yn Aberporth rhwng 13 Chwefror a 17 Mawrth, ni all gwasanaeth T5 deithio trwy bentref Aberporth.
Bydd bws mini cynorthwyol yn rhedeg rhwng 7.05am a 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn er mwyn galluogi teithwyr o Eglwys Parcllyn ac Aberporth i gysylltu â gwasanaeth T5 Aberystwyth ac Aberteifi.
Bydd yr amseroedd ar gyfer teithwyr sy'n teithio rhwng Eglwys Aberporth a Pharcllyn i Aberteifi yn newid. Cliciwch ar yr amserlen yma.