Problemau teithio

Teithio YN RHAD AC AM DDIM bob penwythnos ar rwydwaith TrawsCymru

O ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf 2017 bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyfle i deithio’n rhad ac am ddim ar benwythnosau i bawb ar rwydwaith TrawsCymru.

SYLWCH: Codir y prisiau arferol bob dydd ar wasanaeth X4 Stagecoach Merthyr Tudful – Pontypridd – Caerdydd.

T4 ar ddydd Sadwrn yng Nghaerdydd yn unig

Y lle cyntaf y bydd y bws yn gadael teithwyr (ar y gwasanaeth o Gaerdydd ar ddydd Sadwrn) fydd Pontypridd. 

Ni fydd modd codi teithwyr yn Ninas Caerdydd ar deithiau i Gaerdydd ar fysiau T4 ar ddydd Sadwrn.

Bydd modd i deithwyr sydd am ddal bws ar ddydd Sadwrn i fannau ar hyd Manor Way (A470) ddal bysiau X4 Stagecoach.

Bydd modd i deithwyr sydd am ddal bws ar ddydd Sadwrn o fannau ar hyd Manor Way (A470) i Gaerdydd ddal bysiau X4 Stagecoach.

Ewch i wefan Stagecoach Bus yma i gael rhagor o wybodaeth.

Yn ôl