Problemau teithio

Gwasanaeth 17 Bws Caerdydd yn syth i Heol y Porth

O ddydd Sul 7 Ionawr bydd y llwybr i mewn i ganol y ddinas ar wasanaeth 17 Bws Caerdydd yn newid. Bydd y bysiau’n rhedeg yn uniongyrchol i Heol y Porth dros Bont Caerdydd a bydd yn aros yng Ngwesty’r Angel (arhosfan KD) a’r Ganolfan Brawf (arhosfan KJ) sy’n golygu y bydd gennych fynediad mwy cyfleus i ganol y ddinas.

Sylwch y bydd teithiau ar wasanaeth 17 i Dreganna a Threlái yn dechrau o Heol y Porth (arhosfan KL) ac nid o Wood Street (arhosfan JD).

Nid yw Gwasanaeth 18 yn newid a bydd yn cyrraedd canol y ddinas drwy Neville Street, Clare Street, Tudor Street a Wood Street fel y mae’n ei wneud ar hyn o bryd.

Ewch i wefan Bws Caerdydd yma i gael rhagor o wybodaeth.

Yn ôl