Problemau teithio

Oherwydd gwaith ar y ffyrdd yn y PORTH, bydd bysiau Stagecoach yn aros wrth arosfannau gwahanol o DDYDD LLUN 12 Mawrth 2018 ymlaen.

Ni fydd modd defnyddio’r ddau arhosfan bysiau yn Morrisons a Lewis Merthyr ar Pontypridd Road. 

Bydd arhosfan bysiau newydd o’r enw Porth Square ar gael at ddefnydd bysiau bach, gyferbyn â hen adeilad Banc Lloyds. Bydd yr arhosfan hwnnw ar gyfer bysiau rhif 133, 137, 138, 150, 155, 173, 175 a 230 ymhlith eraill. Dylech ddefnyddio’r arhosfan hwn ar gyfer teithiau tua’r gogledd i Donypandy ar fws gwennol arbennig 230. Bydd bws rhif 130 yn dal i wasanaethu’r PORTH tua’r de (er enghraifft, o Donypandy i’r Porth). Bydd y bws gwennol, sef gwasanaeth rhif 230, yn cael ei gyflwyno er mwyn cysylltu canol tref y Porth tua’r gogledd â Thonypandy, a gellir gweld yr amserlen isod.

Bydd modd i’r rhan fwyaf o fysiau mwy o faint sy’n teithio tua’r GOGLEDD ailddechrau defnyddio’r arhosfan bysiau wrth ymyl yr orsaf heddlu.

Bydd yr arhosfan bysiau wrth ymyl yr orsaf heddlu hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer bysiau rhif 130 sy’n teithio tua’r DE. 

Bydd y prif arhosfan bysiau ar gyfer bysiau rhif 120 a 124 a bws aur 132, sy’n teithio tua’r DE, yn St Mary Street wrth ymyl Wedding World. 

Cliciwch yma i lawrlwytho neu weld yr amserlen ar gyfer bws gwennol rhif 230 rhwng y Porth a Thonypandy (dylech ddefnyddio bws rhif 130 fel arfer os ydych yn teithio tua’r de).

Yn ôl