Problemau teithio

Ni fydd modd defnyddio arhosfan bysiau Castell Caerffili gyferbyn â’r Bandstand am bythefnos

Am bythefnos o ddydd Llun 12 Mawrth 2018 ymlaen, bydd gwaith yn cael ei wneud i ymestyn cilfan yr arhosfan bysiau y tu allan i fynedfa’r castell fel bod digon o le ynddi i ddau fws. Ni fydd unrhyw fysiau’n aros yma yn ystod y cyfnod dan sylw.

Dylech fynd i’r Orsaf Fysiau neu i’r arhosfan bysiau gyferbyn â Sports Direct ar y top.

Ewch i wefan Stagecoach Bus yma i gael rhagor o wybodaeth.

Yn ôl