Problemau teithio

Gwasanaethau 13, 17/18, 96A Bws Caerdydd – cau Pont Trelái

Bydd Heol Orllewinol y Bont-faen ar gau i bob traffig wrth Bont Trelái o 16:30 ddydd Sul 22 Ebrill tan 05:30 fore dydd Llun 23 Ebrill, ac yna bob nos o 19:30 tan 05:30 fore trannoeth o ddydd Llun 23 Ebrill i ddydd Iau 26 Ebrill, gan gau am y tro olaf nos Fercher tan fore dydd Iau.

Yn ystod y cyfnodau hyn bydd gwasanaethau 13, 17/18, 96A yn cael eu dargyfeirio o Ysbyty Dewi Sant ar hyd Leckwith Road, Ffordd Gyswllt Trelái i Groes Cwrlwys ac yna ymlaen i’r Barri (96A), i’r Ddrôp (13) ac i Drelái (13, 17/18). Yn anffodus, ni fydd y gwasanaethau hyn yn mynd trwy Dreganna, ond bydd gwasanaeth bws gwennol yn rhedeg yn eu lle rhwng Heol y Porth, Treganna a Phont Trelái.

Cliciwch yma i weld amserlen y bws gwennol ar gyfer DYDD SUL.

Cliciwch yma i weld amserlen y bws gwennol ar gyfer DYDD LLUN i DDYDD MERCHER.

Bydd y bysiau’n cael eu dargyfeirio fel a ganlyn:

Gwasanaeth 13 i’r Ddrôp

Y llwybr arferol hyd at Heol Ddwyreiniol y Bont-faen (Ysbyty Dewi Sant). Yna bydd y bysiau’n mynd ar hyd Wellington Street, Leckwith Road a’r A4232 Ffordd Gyswllt Trelái i Groes Cwrlwys, ac yna ar hyd Heol Orllewinol y Bont-faen i Heol-y-Felin lle byddant yn ailymuno â’r llwybr arferol i’r Ddrôp.

Gwasanaeth 13 i Ganol y Ddinas

Y llwybr arferol hyd at Snowden Road. Yna bydd y bysiau’n mynd ar hyd Wilson Road, Grand Avenue, Green Farm Road a Heol Orllewinol y Bont-faen i Groes Cwrlwys, ac yna ar hyd yr A4232 Ffordd Gyswllt Trelái, Leckwith Road a Wellington Street i Heol Ddwyreiniol y Bont-faen (Ysbyty Dewi Sant) lle byddant yn ailymuno â’r llwybr arferol i ganol y ddinas.

Gwasanaeth 17

Y llwybr arferol hyd at Heol Ddwyreiniol y Bont-faen (Ysbyty Dewi Sant). Yna bydd y bysiau’n mynd ar hyd Wellington Street, Leckwith Road a’r A4232 Ffordd Gyswllt Trelái i Groes Cwrlwys, ac yna ar hyd Heol Orllewinol y Bont-faen i Green Farm Road, Grand Avenue / Heol Trelái gan deithio mewn cylch i gyfeiriad y cloc i Heol Orllewinol y Bont-faen. Yna byddant yn dilyn Heol Orllewinol y Bont-faen i Groes Cwrlwys, yr A4232 Ffordd Gyswllt Trelái, Leckwith Road a Wellington Street i Heol Ddwyreiniol y Bont-faen (Ysbyty Dewi Sant) lle byddant yn ailymuno â’r llwybr arferol i ganol y ddinas.

Gwasanaeth 18

Y llwybr arferol hyd at Heol Ddwyreiniol y Bont-faen (Ysbyty Dewi Sant). Yna bydd y bysiau’n mynd ar hyd Wellington Street, Leckwith Road a’r A4232 Ffordd Gyswllt Trelái i Groes Cwrlwys, ac yna ar hyd Heol Orllewinol y Bont-faen, Heol Trelái / Grand Avenue gan deithio mewn cylch yn groes i gyfeiriad y cloc i Heol Orllewinol y Bont-faen. Yna byddant yn dilyn Heol Orllewinol y Bont-faen i Groes Cwrlwys, yr A4232 Ffordd Gyswllt Trelái, Leckwith Road a Wellington Street i Heol Ddwyreiniol y Bont-faen (Ysbyty Dewi Sant) lle byddant yn ailymuno â’r llwybr arferol i ganol y ddinas.

Gwasanaeth 96A i’r Barri

Y llwybr arferol ar hyd Wellington Street. Yna bydd y bysiau’n mynd ar hyd Leckwith Road a’r A4232 Ffordd Gyswllt Trelái i Groes Cwrlwys lle byddant yn ailymuno â’r llwybr arferol i Wenfô a’r Barri.

Gwasanaeth 96A i Gaerdydd

Y llwybr arferol i Groes Cwrlwys. Yna bydd y bysiau’n mynd ar hyd yr A4232 Ffordd Gyswllt Trelái a Leckwith Road i Wellington Street lle byddant yn ailymuno â’r llwybr arferol i ganol y ddinas.

Ewch i wefan Bws Caerdydd yma i gael rhagor o wybodaeth.

Yn ôl