Problemau teithio

Rhoi wyneb newydd ar y ffordd, Heol Orllewinol y Bont-faen, 22 – 25 Ebrill 2018

Oherwydd gwaith hanfodol i roi wyneb newydd ar y ffordd, bydd Heol Orllewinol y Bont-faen / Pont Trelái ar gau i’r ddau gyfeiriad o gyffordd cylchfan Melin Trelái hyd at Colin Way gyda’r hwyr ar 22-25 Ebrill.

Gallai hynny achosi problemau mawr, ac ni fydd First Cymru yn gallu gwasanaethu Trelái a Lansdowne Road. Felly, bydd gwasanaeth X2 yn cael ei ddargyfeirio o gylchfan Croes Cwrlwys i’r A4232 i Lecwydd, ar hyd Leckwith Road i Jeff White Motors, gan droi i’r dde i mewn i Ninian Park Road, Stryd Tudor ac ymlaen i Stryd Wood.

Bydd y daith i’r cyfeiriad arall yn dilyn yr un dargyfeiriad am yn ôl.

Bydd y ffyrdd ar gau yn ystod y cyfnodau canlynol:
Dydd Sul 22 Ebrill 1630-1730
Dydd Llun 23 Ebrill 1930-0530
Dydd Mawrth 24 Ebrill 1930-0530
Dydd Mercher 25 Ebrill 1930-0530

Yn ôl