Problemau teithio

Ni chaiff unrhyw gerbydau ddefnyddio’r rhannau canlynol o ffyrdd:

1. Swan Street, Llantrisant

Bydd y ffordd hon ar gau rhwng 1 Hydref 2018 a 21 Hydref 2018 neu bryd bynnag y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.

Ffordd amgen - O ochr orllewinol y man lle bydd y ffordd ar gau, ewch ar hyd Heol Las, Heol Illtyd, Heol Gwynno a Heol-y-Sarn i ochr ddwyreiniol y man lle bydd y ffordd ar gau.

2. Heol-y-Sarn, Llantrisant, o bwynt sydd 23 metr i’r gogledd-orllewin o’r gyffordd â Gwaunruperra Road, am 65 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin.

Bydd y ffordd hon ar gau ddydd Sul 7 Hydref 2018 rhwng 9:00am a 6:00pm neu bryd bynnag y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.

Ffordd amgen - O ochr ddeheuol y man lle bydd y ffordd ar gau, ewch ar hyd Heol-y-Sarn, High Street, Talbot Road, A4119, Cylchfan Ynysmaerdy, ffordd fynediad Parc Busnes Llantrisant, Common Road a Heol-y-Sarn i ochr ogleddol y man lle bydd y ffordd ar gau.

Bydd modd sicrhau mynediad ar gyfer cerddwyr a cherbydau preswylwyr.

Ni fydd modd sicrhau mynediad ar gyfer cerbydau’r gwasanaethau brys.

Yn ôl