-
Prynu tocynnau trên
-
Cardiau rheilffordd
-
Defnyddio Cerdyn Teithio Rhatach Cymru ar drenau
-
Dolenni cyswllt defnyddiol
Prynu tocynnau trên
Nid ydym yn cynnig cyfleusterau prynu tocynnau drwy wefan neu ap Traveline Cymru ar hyn o bryd. Fodd bynnag, wrth ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith i chwilio am deithiau trên, fe welwch chi fotwm ‘Prynu tocynnau trên’ ar waelod blwch y canlyniadau chwilio.
Bydd clicio ar y botwm hwn yn mynd â chi i system archebu tocynnau Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru lle gallwch brynu eich tocyn, waeth pa gwmni trenau yr ydych yn ei ddefnyddio. Gallwch ddewis cael eich tocynnau trwy’r post, eu casglu o beiriant tocynnau neu’u lawrlwytho fel tocyn cod bar ar ddyfais symudol.
Gallwch hefyd brynu eich tocynnau trên oddi wrth Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn y ffyrdd canlynol:
- Ar ddyfais symudol/ap: Gallwch brynu tocynnau a’u lawrlwytho i ap Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru ar gyfer dyfais symudol, neu ddewis eu casglu o beiriant tocynnau hyd at 5 munud cyn i’r trên adael. Gellir lawrlwytho’r ap o’r App Store neu Google Play.
- Dros y ffôn: Gallwch ffonio Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru ar 0333 3211 202 a dewis cael eich tocynnau drwy’r post neu’u casglu o beiriant tocynnau. Mae’r llinellau ar agor rhwng 08:00 a 22:00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 09:00 a 17:00 ar ddydd Sul.
- Yn yr orsaf: Gallwch brynu tocynnau yn un o swyddfeydd tocynnau neu beiriannau tocynnau Trafnidiaeth Cymru. Dim ond tocynnau ar gyfer y diwrnod hwnnw y bydd y peiriannau tocynnau’n eu gwerthu.
- Ar y trên: Mae’n rhaid i chi brynu eich tocyn cyn i chi fynd ar y trên, oni bai nad oes swyddfa neu beiriant tocynnau yn yr orsaf.
Cardiau rheilffordd
Mae yna bob math o gardiau rheilffordd sy’n caniatáu i chi brynu tocyn trên am bris rhatach, ac maent fel rheol yn rhoi gostyngiad o 1/3 ar bris tocyn i oedolyn. Mae rhai cardiau rheilffordd yn caniatáu i chi’n unig gael tocyn rhatach, tra bydd cardiau eraill yn rhoi gostyngiad i’r bobl sy’n teithio gyda chi hefyd.
Nid oes cyfyngiad ar sawl gwaith y gallwch ddefnyddio eich cerdyn rheilffordd, er mai dim ond y tu allan i oriau brig y gellir defnyddio rhai cardiau rheilffordd. Fel rheol, gallwch brynu cerdyn rheilffordd sy’n ddilys am flwyddyn, ond mae rhai yn cynnig opsiwn 3 blynedd.
- Cerdyn rheilffordd i bobl ifanc 16-17 oed: Gallwch arbed hyd at 50% ar bris eich tocynnau trên.
- Cerdyn rheilffordd i bobl ifanc 16-25 oed: Gallwch arbed 1/3 ar bris eich tocynnau trên.
- Cerdyn rheilffordd i bobl 26-30 oed: Gallwch arbed 1/3 ar bris tocynnau trên y tu allan i oriau brig.
- Cerdyn rheilffordd i bobl anabl: Gallwch arbed 1/3 ar bris tocynnau trên i chi ac i ffrind neu gydymaith sy’n teithio gyda chi.
- Cerdyn rheilffordd Teulu a Ffrindiau: Gall hyd at bedwar oedolyn arbed 1/3 ar bris tocynnau trên a gall hyd at bedwar o blant (rhwng 5 a 15 oed) gael 60% oddi ar bris tocynnau trên.
- Cerdyn rheilffordd i bobl hŷn: Gallwch arbed 1/3 ar bris tocynnau trên y tu allan i oriau brig.
- Cerdyn rheilffordd i ddau: Gallwch arbed 1/3 ar bris tocynnau trên y tu allan i oriau brig i chi ac i’r person yr ydych yn teithio gydag ef amlaf. Nid oes yn rhaid i chi fod yn gwpl – gallwch ddewis aelod o’ch teulu neu’ch ffrind gorau.
- Cerdyn rheilffordd i gyn-filwyr: Gallwch arbed 1/3 ar bris y rhan fwyaf o docynnau trên.
Mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cynnig cyfres o gardiau rheilffordd ar gyfer teithio ar lwybrau penodol ar draws eu rhwydwaith. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.
Defnyddio Cerdyn Teithio Rhatach Cymru ar drenau
Os oes gennych Gerdyn Teithio Rhatach gan awdurdod lleol yng Nghymru, gallwch deithio am ddim ar lawer o drenau Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru ar wahanol adegau drwy gydol y flwyddyn.
Gallwch deithio rhwng:
- Wrecsam a Phont Penarlâg
- Machynlleth a Phwllheli (Rheilffordd Arfordir y Cambrian) – rhwng mis Hydref a mis Mawrth yn unig
- Llandudno a Blaenau Ffestiniog (Rheilffordd Dyffryn Conwy)
- Amwythig a Llanelli/Abertawe (Rheilffordd Calon Cymru) – rhwng mis Hydref a mis Mawrth yn unig
Bydd angen i chi gael tocyn rhad ac am ddim o’r swyddfa docynnau cyn i chi deithio. Os nad oes swyddfa docynnau yn yr orsaf neu os yw’r swyddfa ar gau, gallwch gael tocyn gan y Casglwr Tocynnau ar y trên.
Gallwch hefyd gael 1/3 oddi ar bris tocynnau ar gyfer rhwydwaith Caerdydd a’r Cymoedd ar ôl 09:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener ac unrhyw bryd ar benwythnosau a gwyliau banc.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.