-
Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (Cymru)
-
Ymgyrch ‘Cymerwch amser i siarad’ Trafnidiaeth Cymru
-
Trais domestig ac ymddygiad rhywiol nas dymunir
-
Ymgyrch ‘I Am Train Safe’
Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (Cymru)
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (Cymru) yn wasanaeth heddlu cenedlaethol ar gyfer gweithredwyr trenau, eu staff a’u teithwyr ledled Cymru.
Os byddwch yn dyst i drosedd, yn dioddef trosedd neu’n gweld unrhyw beth amheus yn ystod eich taith, mae’n bwysig rhoi gwybod am hynny.
- Dros y ffôn: 0800 40 50 40, neu 999 mewn argyfwng
- Drwy neges destun: 61016 (mewn argyfwng dylech bob amser ffonio 999)
- Drwy ebost: 61016@btp.pnn.police.uk
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Ymgyrch ‘Cymerwch amser i siarad’ Trafnidiaeth Cymru
Beth bynnag yr ydych yn mynd drwyddo, mae yna rywun a fydd yn barod i’w wynebu gyda chi. Dim ond un alwad ffôn y mae’n ei chymryd i ofyn am gymorth. Isod ceir rhestr o fudiadau sydd yno i wrando arnoch chi neu ar rywun yr ydych yn ei adnabod y gallai fod angen cymorth arno:
Y Samariaid (maent yn darparu cymorth i unrhyw un sydd dan straen emosiynol, sy’n ei chael yn anodd ymdopi neu sy’n ystyried cyflawni hunanladdiad) |
Ffôn: 116 123 |
C.A.L.L. (Llinell Gymorth Iechyd Meddwl i Gymru) |
Ffôn: 0800 132 737 |
Meic (Cymorth i bobl ifanc hyd at 25 oed) |
Ffôn: 0808 802 34 56 |
Llinell Gymorth Papyrus (Atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc) |
Ffôn: 0800 068 41 41 |
NSPCC Childline (Cymorth i blant a phobl ifanc hyd at 19 oed) |
Ffôn: 0800 11 11 |
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Network Rail a phartneriaid eraill i wneud popeth posibl i atal achosion o hunanladdiad ar y rheilffyrdd a chynorthwyo’r sawl y mae achosion o’r fath yn effeithio arnynt.
Peidiwch byth â’ch rhoi eich hun mewn perygl, ond gall gweithred fach wneud gwahaniaeth enfawr i rywun sy’n ystyried cyflawni hunanladdiad.
- Bwriad ymgyrch ‘Small Talk Saves Lives’ y Samariaid yw grymuso’r cyhoedd i weithredu er mwyn atal achosion o hunanladdiad ar y rheilffyrdd ac mewn mannau eraill.
- Canllawiau’r Samariaid ynghylch sut i fynd at rywun ar blatfform gorsaf drenau a allai fod yn ystyried cyflawni hunanladdiad.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen ‘Cymerwch amser i siarad’ Trafnidiaeth Cymru ar y we.
Trais domestig ac ymddygiad rhywiol nas dymunir
Rheilffordd i Loches
Mae Rheilffordd i Loches yn fenter ar y cyd rhwng gweithredwyr trenau ledled y DU a’r elusen Cymorth i Fenywod. Mae gweithredwyr trenau’n talu pris tocynnau trên i fenywod, dynion a phlant sy’n ffoi rhag camdriniaeth ddomestig ac yn teithio i loches.
Sut y mae’r cynllun yn gweithio:
- Mae unigolyn sydd wedi goroesi camdriniaeth ddomestig yn ceisio cymorth gan wasanaeth cam-drin domestig sy’n rhan o Gymorth i Ferched Cymru, Cymorth i Fenywod, Cymorth i Fenywod yr Alban neu Imkaan (gan gynnwys Llinell Cyngor i Ddynion Respect).
- Os yw’n briodol, caiff yr unigolyn ei gyfeirio at loches a chaiff wybod pan fydd lle gwag mewn lloches wedi’i gadarnhau ar ei gyfer.
- Bydd y lloches yn trefnu tocyn trên am ddim i’r unigolyn.
- Gall y lloches anfon y tocyn a’r manylion casglu at yr unigolyn drwy ffôn symudol. Yna, gall yr unigolyn ddefnyddio e-docyn a anfonwyd i’w ffôn symudol neu gasglu’r tocyn o’r orsaf gan ddefnyddio unrhyw gerdyn debyd neu gredyd; byddant yn gallu teithio fel teithiwr cyffredin heb orfod dweud bod y tocyn yn un rhad ac am ddim neu’u bod yn ffoi rhag camdriniaeth ddomestig.
I gael gwybod mwy am y cynllun Rheilffordd i Loches, ewch i wefan Cymorth i Fenywod.
Rhoi gwybod am ymddygiad rhywiol nas dymunir
Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac sy’n gweithio arni yn ddiogel. Fodd bynnag, gall troseddau ddigwydd ar drafnidiaeth gyhoeddus ac, yn anffodus, gall achosion o ymddygiad rhywiol nas dymunir ddigwydd ar y rhwydwaith rheilffyrdd.
Mae’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi ymrwymo i sicrhau bod y sawl sy’n dioddef ac yn goroesi achosion o ymddygiad rhywiol nas dymunir yn cael gwasanaeth cyson a chefnogol. Gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn cymryd yr hyn yr ydych yn ei ddweud o ddifrif bob amser.
Gallwch roi gwybod am ddigwyddiad yr ydych wedi’i weld neu’i brofi yn bersonol:
- Dros y ffôn: 0800 40 50 40, neu 999 mewn argyfwng
- Drwy neges destun: 61016 (mewn argyfwng dylech bob amser ffonio 999)
- Drwy ebost: 61016@btp.pnn.police.uk
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
Cymorth ychwanegol:
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn (sy’n darparu cymorth a chyngor ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol) |
Ffôn: 0808 80 10 800 Ebost: info@livefearfreehelpline.wales Neges destun: 07860 077333 |
Galop (Llinell Gymorth Genedlaethol ynghylch Cam-drin Domestig i Bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsryweddol+) |
Ffôn: 0800 999 5428 Ebost: help@galop.org.uk |
Prosiect DYN (sy’n darparu cymorth i ddynion heterorywiol, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol sy’n dioddef camdriniaeth ddomestig gan bartner) |
Ffôn: 0808 801 0321 Ebost: dyn@saferwales.com |
Ymgyrch I Am Train Safe
Bob blwyddyn mae tua 13,500 o achosion o dresmasu’n digwydd ar reilffyrdd Prydain, sy’n arwain at oddeutu 20-30 o farwolaethau, ac yn ystod y degawd diwethaf mae 69 o bobl wedi’u lladd â thrydan ar y rheilffyrdd.
Cafodd yr ymgyrch ‘I Am Train Safe’ ei lansio gan Network Rail, a’i fwriad yw helpu i wneud dysgu am ddiogelwch ar y rheilffyrdd yn hwyl ac yn ddiddorol i blant o oedran ifanc.
Gallwch wylio fideo’r ymgyrch sy’n cynnwys yr actores Joanna Page a seren rygbi Cymru Gareth Thomas, cwblhau’r cwis a gwneud adduned i fod yn ddiogel ar y rheilffyrdd ar wefan ‘I Am Train Safe’.
- Mae Network Rail hefyd wedi datblygu cyfres o adnoddau addysgol am drydan ar y rheilffyrdd, croesfannau rheilffyrdd a diogelwch ar y rheilffyrdd.
- Mae gan wefan Network Rail ‘You vs. Train’ fwy o wybodaeth am beryglon tresmasu ar draciau rheilffyrdd.