Byddwch yn ddiogel, cynlluniwch ymlaen llaw a byddwch yn deithiwr cyfrifol
Mae diogelwch a lles cwsmeriaid a staff yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth.
Dilynwch ein canllawiau Teithio’n Ddiogelach wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Byddwch yn ddiogel - byddwch yn deithiwr cyfrifol, cynlluniwch ymlaen llaw os oes angen i chi deithio a pheidiwch â theithio os ydych chi'n teimlo'n sâl.
Ystyriwch eraill - meddyliwch am wisgo gorchudd wyneb.
Ymarfer corff wrth i chi deithio - cerddwch neu feiciwch ar gyfer teithiau byr os gallwch chi.
Parchwch staff a theithwyr eraill tra byddwch yn teithio.
Yn ystod eich taith
- Meddyliwch am wisgo gorchudd wyneb ar bws a trenau ac yn adeiladau gorsaf.
- Cerddwch neu feiciwch ar deithiau byrrach os gallwch chi.
- Cadwch unrhyw ffenestri ar agor i helpu awyru.
- Byddwch yn barchus - nid yw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dderbyniol yn unrhyw le ar ein rhwydwaith.
- Cadwch eich pellter - mae Coronafeirws yn dal yn ein cymunedau, helpwch ni i barhau i Gadw Cymru'n Ddiogel drwy gadw pellter parchus oddi wrth eraill os gallwch chi.
Teithio yng Nghymru
Gallwch weld canllawiau teithio diweddaraf Llywodraeth Cymru yma.
Teithio y tu allan i Gymru
Bydd angen i chi ddilyn y canllawiau ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.