Telerau defnydd

Telerau defnydd 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021. 

Croeso i Wijet Cynlluniwr Taith Aml-ddull Traveline Cymru. Drwy ddefnyddio Ein Gwasanaeth, rydych yn cytuno i gydymffurfio â’r telerau defnydd canlynol a chael eich rhwymo ganddynt. Dylech ddarllen y telerau canlynol yn ofalus cyn defnyddio Ein Gwasanaeth. 

Drwy lawrlwytho’r Gwasanaeth, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau a’r Amodau hyn. Os ydych yn anghytuno ag unrhyw ran o’r Telerau a’r Amodau hyn, ni chewch gyrchu’r Gwasanaeth. 

Dehongli 

Caiff ystyron y geiriau sy’n dechrau â phriflythyren eu diffinio dan yr amodau canlynol. Bydd ystyr y geiriau canlynol yr un fath, waeth a ydynt yn ymddangos yn eu ffurf unigol neu’u ffurf luosog. 

Diffiniadau  

At ddibenion y Telerau a’r Amodau hyn: 

  • Ystyr Gwlad yw’r Deyrnas Unedig. 
  • Ystyr Cwmni (sef "y Cwmni", "Ni" neu "Ein" yn y Cytundeb hwn) yw PTI Cymru Ltd. 
  • Ystyr Dyfais yw unrhyw ddyfais a all gyrchu’r Gwasanaeth, megis cyfrifiadur, ffôn symudol neu lechen ddigidol. 
  • Ystyr Gwasanaeth yw’r Wijet Cynlluniwr Taith Aml-ddull. 
  • Ystyr Telerau ac Amodau (a elwir hefyd yn "Delerau") yw’r Telerau a’r Amodau hyn sy’n rhan o’r cytundeb cyfan rhyngoch Chi a’r Cwmni ynglŷn â defnyddio’r Wijet.  
  • Ystyr Chi yw’r unigolyn sy’n cyrchu neu’n defnyddio’r Gwasanaeth, neu’r cwmni neu’r endid cyfreithiol arall y mae’r unigolyn hwnnw yn cyrchu neu’n defnyddio’r Gwasanaeth ar ei ran, fel y bo’n berthnasol. 

 

Cyfyngiadau a gwaharddiadau ar ddefnydd  

Mae eich defnydd o’r Gwasanaeth ac unrhyw wybodaeth yn rhwym wrth y cyfyngiadau a’r gwaharddiadau canlynol ar ddefnydd: Ni chewch (a) werthu’r Gwasanaeth, ei drwyddedu, ei osod ar rent, ei osod ar brydles, ei roi ar fenthyg nac elwa’n ariannol ohono fel arall; (b) defnyddio’r Gwasanaeth i ddatblygu adnodd tebyg neu gydran o adnodd tebyg (mewn unrhyw gyfrwng sy’n bodoli ar hyn o bryd neu a ddatblygir yn y dyfodol), a gynigir er mwyn ei ddosbarthu’n fasnachol mewn unrhyw fodd, sy’n cynnwys ei werthu, ei drwyddedu, ei osod ar brydles, ei osod ar rent, ei ddarparu drwy danysgrifiad, neu’i ddosbarthu yn fasnachol mewn unrhyw fodd arall; (c) dileu’r Gwasanaeth, ei ddadlunio, ei ddadosod neu’i ddadansoddi’n fanwl er mwyn ei ail-greu, na defnyddio unrhyw feddalwedd monitro neu ddarganfod rhwydwaith er mwyn cael gwybod sut y mae’r Gwasanaeth wedi’i saernïo. 

 

Cyfyngu ar atebolrwydd  

I’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith berthnasol, ni fydd y Cwmni na’i gyflenwyr yn atebol o gwbl am unrhyw iawndal arbennig, achlysurol, anuniongyrchol neu ganlyniadol (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol: iawndal am unrhyw achos o golli elw, colli data neu wybodaeth arall, unrhyw achos o darfu ar fusnes, unrhyw anaf personol, unrhyw achos o golli preifatrwydd sy’n deillio o ddefnydd o’r Gwasanaeth, meddalwedd trydydd parti a/neu galedwedd trydydd parti a ddefnyddir gyda’r Gwasanaeth neu sy’n deillio o anallu i’w defnyddio, neu sy’n gysylltiedig mewn unrhyw fodd â hynny, nac fel arall yng nghyswllt unrhyw un o ddarpariaethau’r Telerau hyn), hyd yn oed os yw’r Cwmni neu unrhyw gyflenwr wedi cael gwybod am y posibilrwydd o iawndal o’r fath a hyd yn oed os yw’r rhwymedi’n methu o ran ei bwrpas hanfodol. 

Gwallau, cywiriadau a newidiadau 

Nid ydym yn honni nac yn gwarantu y bydd y Gwasanaeth yn rhydd o wallau, y bydd yn rhydd o firysau neu gydrannau niweidiol eraill neu y bydd diffygion yn cael eu cywiro. Nid ydym yn honni nac yn gwarantu y bydd y wybodaeth sydd ar gael ar y Gwasanaeth neu drwyddo’n gywir, yn amserol neu’n ddibynadwy fel arall. Mae’n bosibl y byddwn yn newid nodweddion, swyddogaethau neu gynnwys y Gwasanaeth unrhyw bryd.  

Y gyfraith sy’n llywodraethu  

Caiff y Cytundeb, ac unrhyw anghydfod neu hawliad (gan gynnwys anghydfodau neu hawliadau nad ydynt dan gontract) sy’n deillio o’r Cytundeb neu’i gynnwys neu’i ffurf neu yng nghyswllt y Cytundeb neu’i gynnwys neu’i ffurf, eu llywodraethu gan gyfraith Cymru a Lloegr a’u dehongli yn unol â’r gyfraith honno. 

Datrys anghydfodau  

Os oes gennych unrhyw bryder neu anghydfod am y Gwasanaeth, rydych yn cytuno i geisio datrys yr anghydfod yn anffurfiol yn gyntaf drwy gysylltu â’r Cwmni. 

Cysylltu â ni 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Telerau a’r Amodau hyn, gallwch gysylltu â ni: 

  • Dros y ffôn: 0800 464 0000