Traveline Cymru+

Ydych chi am helpu eich cydweithwyr, eich ymwelwyr neu’ch cymuned leol i archwilio eu hopsiynau teithio er mwyn eich cyrraedd ar fws, ar drên, ar feic ac ar droed? Os felly, mae ein sesiynau TravelineCymru+ newydd i fusnesau ledled Cymru, sy’n awr o hyd, yma i’ch helpu! 

 

Cofrestru ar gyfer sesiwn yma

 

Bwriad ein sesiynau digidol byw TravelineCymru+ sy’n rhad ac am ddim yw rhoi’r adnoddau angenrheidiol i gynrychiolwyr o’ch sefydliad fod yn ‘hyrwyddwyr teithio’. Felly, waeth pa fath o fusnes ydych chi, byddwch yn gallu annog eich ymwelwyr, eich tîm ehangach a’ch cymuned leol i ddefnyddio ein gwasanaethau gwybodaeth er mwyn archwilio eu hopsiynau teithio. 

Yn y sesiwn, bydd ein hyfforddwr arbenigol yn eich tywys drwy’r canlynol: 

  • Gwybodaeth fanwl am wasanaethau gwybodaeth Traveline Cymru am drafnidiaeth gyhoeddus a dulliau teithio llesol, gan gynnwys ein gwefan, ein ap a’n rhif Rhadffôn. 
  • Trosolwg o’n his-blatfformau a fydd yn eich helpu i gyrraedd pen eich taith. 
  • Byddwn hefyd yn anfon pecyn cymorth TravelineCymru+ sy’n rhad ac am ddim drwy ebost ar ôl y sesiwn. Mae’r pecyn yn cynnwys: yr holl adnoddau yn dilyn y sesiwn hyfforddiant er mwyn i chi eu rhannu â’ch tîm; fideo sy’n cynnwys cyfarwyddiadau; asedau amlgyfrwng; a manylion ynghylch sut mae mynd ati i ychwanegu ein Wijet Cynlluniwr Taith Aml-ddull at eich gwefan. 

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i gofrestru ar gyfer un o sesiynau TravelineCymru+. 

Os hoffech drafod y posibilrwydd o drefnu profiad sydd wedi’i deilwra yn fwy helaeth ar gyfer anghenion eich sefydliad chi, ebostiwch marketing@traveline.cymru.