Blog

RNIB Cymru Logo

Lansio’r canllaw ‘Dewch gyda ni’

26 Ionawr 2015

Ddydd Iau 15 Ionawr aethom i ddigwyddiad lansio’r canllaw ‘Dewch gyda ni’ yn y Senedd yng Nghaerdydd – digwyddiad a oedd yn taflu goleuni ar y problemau y mae pobl sydd â nam ar eu golwg yn eu cael wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Cafodd y canllaw newydd ‘Dewch gyda ni’ a ysgrifennwyd gan ddwy elusen sy’n flaenllaw ym maes colli golwg, sef RNIB Cymru a Guide Dogs Cymru, ei lansio gan y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart. Nod y canllaw yw darparu arweiniad i gomisiynwyr gwasanaethau a chwmnïau bysiau ynghylch diwallu anghenion pobl ddall a rhannol ddall pan fyddant yn teithio ar fysiau, er mwyn gwella profiad y bobl hynny o deithio ar fysiau yng Nghymru.

Mae’r canllaw yn ymdrin ag ystod eang o broblemau y mae pobl sydd â nam ar eu golwg yn eu hwynebu’n rheolaidd, ac mae’n cynnwys straeon a phrofiadau personol y bobl hynny. Mae gan drafnidiaeth gyhoeddus rôl enfawr i’w chwarae ym mywydau pobl ddall neu rannol ddall, yn enwedig gan nad yw llawer ohonynt yn gallu gyrru. Felly, gan mai bysiau yw eu prif ddull o deithio o gwmpas, mae’n hynod bwysig bod pobl yn teimlo’n ddiogel ac yn teimlo’n hyderus y gallant fynd o le i le’n dawel eu meddwl.

Un o’r problemau mwyaf i deithwyr yw methu â gwybod ble y maent wrth deithio ar fws. Y llynedd, methodd 89% o bobl ddall neu rannol ddall â mynd oddi ar y bws yn y man cywir oherwydd nad oeddent yn gwybod pryd i fynd oddi ar y bws. Mae gwybod pa arhosfan y mae’r bws wedi’i gyrraedd yn hanfodol, a gall diffyg gwybodaeth arwain weithiau at brofiad brawychus i lawer. Yn aml, mae’n hanfodol bod pobl sydd â nam ar eu golwg yn cael cymorth gyrwyr bysiau i’w helpu gydag unrhyw wybodaeth. Yn yr achos hwn, mae cyflwyno cyhoeddiadau sain ar fysiau wedi bod yn hynod ddefnyddiol i lawer o bobl. Mae’n fodd i adael i bobl wybod ble’n union y maent ac i ble y maent yn mynd, heb orfod dibynnu ar ewyllys da gyrwyr bysiau neu deithwyr eraill.

Meddai Jonathan Mudd, Pennaeth Gwasanaethau Guide Dogs Cymru, “Mae dros 115,000 o bobl ddall neu rannol ddall yng Nghymru, ac mae arnynt angen bysiau er mwyn gallu parhau i fyw’n annibynnol. Rydym yn gobeithio y bydd y canllaw hwn yn atgyfnerthu pwysigrwydd hyfforddi gyrwyr bysiau i gynnig cymorth i bobl ddall neu rannol ddall ac y bydd yn annog gweithredwyr bysiau i osod peiriannau clyweledol ar bob un o’u bysiau, sy’n cyhoeddi’r arhosfan nesaf.”

Daeth tyrfa dda iawn i’r digwyddiad lansio, a chafwyd anerchiadau llawn gwybodaeth gan y sawl a fu’n ymwneud yn uniongyrchol â’r prosiect a’r sawl sydd â phrofiad personol o’r problemau y mae pobl rannol ddall yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

Roedd y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart yn bresennol yn y digwyddiad lansio, a soniodd am ei dymuniad a’i nod, sef sicrhau ei bod yn haws i bobl deithio ar fysiau. Meddai, “Yng Nghymru, mae’r rhwydwaith bysiau’n arbennig o bwysig mewn ardaloedd gwledig a rhannau o’r wlad lle nad oes trenau ar gael. Rwy’n hyderus y bydd y canllaw hwn yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at wella hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus a chyflawni ein hamcanion ehangach, sef gwella cyfleoedd i bobl fyw’n annibynnol ar hyd a lled Cymru.”

Yn ogystal, bu Sian Healey yn sôn am ei phrofiadau o deithio ar fysiau gyda’i chi tywys, Archie a bu Nathan o’r elusen Guide Dogs yn sôn am ei brofiadau e’n teithio ar fysiau.

Meddai Ceri Jackson, Cyfarwyddwr RNIB Cymru, “Mae bysiau’n wasanaeth hanfodol i bobl ddall neu rannol ddall, ond yn rhy aml o lawer byddant yn cael profiad gwael neu brofiad brawychus hyd yn oed, sy’n golygu bod rhai pobl yn rhoi’r gorau i ddefnyddio bysiau’n gyfan gwbl. Gall hynny arwain at unigrwydd ac at golli hyder, a bydd yn atal pobl ddall neu rannol ddall rhag byw’n annibynnol.”

Yn ystod y digwyddiad lansio cafodd Laura, ein Swyddog Marchnata, gyfle i wisgo sbectol arbennig sy’n ail-greu’r profiad y mae pobl rannol ddall yn ei gael. Helpodd y gweithgaredd i dynnu sylw at y trafferthion y mae pobl sydd â nam ar eu golwg yn dod ar eu traws bob dydd, ac roedd yn ffordd ddiddorol iawn o ddeall y problemau y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd a’r hyn y gellir ei wneud i helpu i ddatrys y problemau hynny yn y dyfodol.

Tynnodd trafodaethau a gweithgareddau’r dydd sylw hefyd at bwysigrwydd bod yn ymwybodol o’r bobl sydd o’ch cwmpas a’u helpu pan fo hynny’n bosibl. Weithiau, efallai na fyddwch yn sylweddoli bod pobl yn cael anhawster gweld, neu efallai na fydd hynny’n amlwg iawn, yn enwedig os nad oes ganddynt gi tywys neu ffon. Felly, mae’n bwysicach fyth ein bod yn ystyried anghenion y bobl eraill yr ydym yn teithio gyda nhw.

Mae lansio’r canllaw ‘Dewch gyda ni’ yn gam calonogol tuag at gynyddu ymwybyddiaeth o’r problemau y mae pobl rannol ddall yn eu hwynebu, a bydd cynnig hyfforddiant a sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r angen i helpu ei gilydd wrth deithio’n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau llawer o bobl sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn gallu teithio o le i le.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y canllaw ‘Dewch gyda ni’ a’r gwaith y mae RNIB Cymru yn ei wneud, ewch i wefan RNIB Cymru.

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.

Pob blog Rhannwch y neges hon