Telerau ac amodau

Telerau ac amodau

Cywirdeb Gwybodaeth a Chynnwys

Tra ein bod ni’n gwneud pob ymdrech posibl i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth sy’n gynwysedig yn y wefan hon, ar adegau, gellir gwneud camgymeriadau. Mewn achos o gamgymeriad, cysylltwch â ni ar unwaith os gwelwch yn dda ar feedbacktraveline@tfw.wales er mwyn i ni allu ei gywiro.

Argaeledd y Wefan

Ni allwn warantu y bydd y wefan hon ar gael bob amser ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os nad yw ar gael.

Dolenni Allanol

Mae gwefan Traveline Cymru yn rhestru dolenni a chyfeiriadau i wefannau eraill a weithredir gan drydydd person. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y gwefannau hynny ac ni ellir ein dal yn gyfrifol am y cynnwys, argaeledd, cynnyrch, gwasanaethau neu unrhyw ddeunydd a ddarperir ganddynt neu sydd ar gael drwy’r gwefannau hyn.

Amserau Agor y Ganolfan Alwadau

Mae modd cysylltu â rhif Rhadffôn Traveline Cymru 0800 464 0000 rhwng 7am ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Sul. Mae’r Ganolfan Gyswllt ar gau ar Ddydd Nadolig ac ar agor am lai o oriau ar y diwrnodau canlynol:

  • Noswyl Nadolig: 7am – 6pm
  • Gŵyl San Steffan: 10am – 4pm
  • Dydd Calan: 8am – 8pm

 

Prisiau Traveline Cymru

Mae negeseuon testun i Bus Times trwy wasanaeth Testun yn costio’r un faint â neges destun arferol (gall hyn amrywio o un gweithredydd ffôn i un arall). Mae’r ymateb yn rhad ac am ddim i’r ymholwr, gan ei fod wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae’r wybodaeth sy’n gynwysedig yn y wefan hon yn rhad ac am ddim i ddefnyddiwr preifat. Os oes angen yr wybodaeth ar gwmni allanol, bydd yn rhaid gwneud cais i Traveline Cymru, ac ni all cwmni allanol godi tâl am y ddarpariaeth nac am y defnydd o ddata Traveline Cymru. Am ganiatâd i ddefnyddio’n data, cysylltwch â data@tfw.wales os gwelwch yn dda.

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 21/05/2021