Blog

Cardiff Central Square

Dinas Caerdydd yn cael ei gweddnewid!

12 Awst 2015

Os ydych chi wedi bod yng Nghaerdydd y mis hwn, mae’n debyg y byddwch wedi sylwi bod yr orsaf fysiau ganolog wedi cau erbyn hyn. Y rheswm am hynny yw datblygiad enfawr y Sgwâr Canolog a fydd yn gweddnewid yr ardal yn lle cyffrous a modern a fydd yn gartref i adeiladau swyddfeydd a phencadlys newydd BBC Cymru.

Bydd gorsaf fysiau newydd sbon yn rhan o’r datblygiad hwn, a’r cwmni pensaernïaeth y mae Cyngor Caerdydd wedi’i ddewis ar gyfer yr orsaf newydd yw Fosters & Partners sy’n enwog ledled y byd. Mae’r cwmni wedi datgelu ei gynlluniau diweddaraf ar gyfer yr orsaf, a gallwch weld yr holl fanylion yma.

Bydd yr orsaf yn cynnwys bwytai, caffis, gwesty, fflatiau a lle storio beiciau, a bydd y cyfan uwchben yr orsaf fysiau a fydd ar y llawr gwaelod. Mae’n brosiect cyffrous! Ond bydd yn rhaid i ni fod yn amyneddgar am ychydig oherwydd mae disgwyl i’r gwaith ddechrau ym mis Ebrill 2017 fel bod yr orsaf fysiau’n barod i agor yn ystod haf 2018.

Meddai’r Cynghorydd Patel, yr Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, Cynllunio a Chynaliadwyedd:

‘Bydd yr orsaf fysiau newydd yn fodern ac yn addas i’w diben, a bydd yn darparu ar gyfer y cynnydd a ragwelir yn nifer y teithwyr. Bydd gan yr orsaf ddull dynamig o bennu arosfannau ar gyfer bysiau a bydd yn arddangos gwybodaeth amser real i’r cyhoedd. Ni fydd y gyfnewidfa fysiau’n lle parcio i fysiau, fel y mae wedi bod. Bydd yn cael ei rhedeg yn effeithlon a bydd y datblygiad yn briodol i brifddinas Ewropeaidd sy’n tyfu. Rydym am sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy deniadol ac mae’r cynlluniau hyn yn darparu ar gyfer twf y ddinas yn y dyfodol.’

Mae’n bendant yn gyfnod cyffrous i fod yng Nghaerdydd ac mae’r ddinas wedi’i gweddnewid yn sylweddol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae’r orsaf fysiau ganolog wedi bod o gwmpas ers 60 mlynedd a bydd llawer ohonom yn gorfod dod i arfer â gweld ardal fawr o’r ddinas yn newid yn llwyr. Fodd bynnag, pan fydd y datblygiad wedi’i orffen, bydd yr argraff gyntaf y bydd ymwelwyr yn ei chael o’r brifddinas yn drawiadol tu hwnt.

I’r rhai hynny ohonom sy’n defnyddio bysiau’n rheolaidd, rydym yn dechrau dod i arfer â’r trefniadau newydd ar gyfer dal ein bws. Fodd bynnag, efallai eich bod yn gwybod am rywrai nad ydynt yn gyfarwydd â’r ddinas neu nad ydynt wedi arfer â defnyddio’r system fysiau. Felly, rydym wedi rhestru rhai cynghorion ar eu cyfer!

 

Gwybod ble i ddal eich bws

Mae disgwyl y bydd gwaith ar y datblygiad yn para tan 2017/2018, felly bydd y trefniadau sydd newydd gael eu cyflwyno ar gyfer yr arosfannau bysiau’n para am dipyn. Gwnewch yn siŵr nad ydych yn mynd ar goll, drwy fwrw golwg ar ein tudalen wybodaeth Gorsaf Fysiau Caerdydd Ar Gau.

Yma, gallwch gael gafael ar yr holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen gan wahanol weithredwyr ynghylch ble y gallwch ddal eu bysiau erbyn hyn. Mae Cyngor Caerdydd hefyd wedi cyhoeddi map sy’n dangos ble mae’r arosfannau newydd a pha wasanaethau sy’n aros yno. Gallwch weld fersiwn lawn o’r map yma.

Ydych chi am ddal bysiau National Express? Mae pob un o fysiau National Express sy’n gadael ac yn cyrraedd Caerdydd yn defnyddio Gerddi Sophia erbyn hyn. Mae gorsaf drenau Caerdydd Canolog ryw 15 - 20 munud o waith cerdded oddi yno. Mae maes parcio a gaiff ei redeg gan y Cyngor yng Ngerddi Sophia (bydd y ddolen gyswllt yn eich arwain i fanylion am y prisiau sydd ar wefan y Cyngor). Mae’r maes parcio ar agor 24 awr y dydd ac mae’n costio £10.30 i barcio yno am 24 awr.

Cwpan Rygbi’r Byd yn dod i Gaerdydd

Bydd Caerdydd yn llawn cynnwrf o fis Medi ymlaen wrth i Stadiwm y Mileniwm groesawu nifer o gemau rygbi cyffrous yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd! Mae disgwyl i filoedd o wylwyr ymweld â’r ddinas ar gyfer y gemau, ac mae’n debyg y bydd yr arosfannau bysiau o amgylch yr orsaf yn brysur tu hwnt wrth i bobl grwydro o gwmpas y ddinas.

I unrhyw rai sydd wedi bod yn ddigon ffodus i gael tocyn ac sy’n ymweld â Chymru o bell, mae’n bosibl na fyddant yn gwybod bod yr orsaf fysiau wedi cau. Rhannwch ein tudalen wybodaeth â’ch ffrindiau a allai fod yn ymweld â Chaerdydd a helpwch i ledaenu’r neges!

Os nad ydych yn siŵr pryd mae’r gemau’n cael eu cynnal, ewch i’n tudalen wybodaeth am Gwpan Rygbi’r Byd i gael y manylion am ddyddiadau ac amseroedd y gemau.

Rydym yn edrych ymlaen at weld datblygiad newydd y Sgwâr Canolog a’r orsaf fysiau newydd yn ei holl ogoniant pan fydd y gwaith wedi’i orffen! Beth yw eich barn chi am y cynlluniau newydd?

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.


Pob blog Rhannwch y neges hon