Contact Centre Cymru yw ein canolfan alwadau fewnol ddwyieithog ym Mhenrhyndeudraeth yn y gogledd. Mae asiantiaid cyfeillgar a chymwys iawn ein canolfan gyswllt, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn darparu gwasanaeth canolfan alwadau effeithiol a phroffesiynol i ystod o fusnesau ledled Cymru a’r DU.

Mae Contact Centre Cymru yn darparu gwasanaeth dros y ffôn Traveline Cymru, gan roi gwybodaeth am amseroedd bysiau a threnau i gwsmeriaid pan fyddant yn ffonio 0800 464 0000 yn rhad ac am ddim, a helpu cwsmeriaid i gynllunio eu llwybrau a chael yr holl wybodaeth y mae arnynt ei hangen i wneud eu teithiau.
 

Staff yn swyddfa Contact Centre Cymru ym Mhenrhyndeudraeth yn y gogledd


Cleientiaid

Mae ein staff yn Contact Centre Cymru yn ymdrin ag ymholiadau gan gwsmeriaid ar ran nifer o weithredwyr bysiau a threnau, gan gynnwys Traveline Cymru, Bwcabus, First Cymru, National Rail Enquiries, Trenau Arriva Cymru a Severn Trent Water.

 
Gwasanaethau

Mae Contact Centre Cymru yn cynnig ystod o wasanaethau i fusnesau yn ôl eu hanghenion penodol, a gall y ganolfan ddarparu’r gwasanaethau canlynol:

 

  • Cymorth ardderchog o ran gwasanaethau i gwsmeriaid

  • Rheoli eiddo coll

  • Ymdrin â chyfryngau cymdeithasol

  • Ymdrin â chwynion

  • Cadw seddi ac ymholiadau cyffredinol

  • Ymateb personol i ymholiadau gan eich cwsmeriaid

 

Mae Contact Centre Cymru ar agor bob dydd o 7am i 8pm drwy’r flwyddyn ac eithrio Dydd Nadolig, felly bydd pwynt cyswllt ar gael i gwsmeriaid bob amser, hyd yn oed yn ystod cyfnodau prysur a thros y gwyliau. Gall cwsmeriaid gysylltu â’r tîm yn rhad ac am ddim ar 0800 464 0000

Mae Contact Centre Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd i gwsmeriaid dros y ffôn, ac mae’r staff yn fedrus iawn hefyd wrth ymateb i adborth ac ymholiadau gan gwsmeriaid drwy gyfryngau cymdeithasol. Mae hwn yn adnodd ardderchog i gwmnïau sy’n cael llawer o adborth drwy gyfryngau cymdeithasol, gan fod oriau agor y ganolfan gyswllt yn golygu bod modd ymateb i ymholiadau gan gwsmeriaid cyn gynted ag sy’n bosibl drwy gydol y dydd.

Staff yn gweithio’n galed yn y swyddfa ym Mhenrhyndeudraeth 

Mae’r ganolfan wedi’i lleoli yn un o gadarnleoedd y Gymraeg ac felly mae ein staff i gyd yn gallu ateb galwadau’n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae gan ein staff cyfeillgar yn y ganolfan alwadau enw da am ddarparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid gyda lefel bodlonrwydd cwsmeriaid o 92%, ac maent yn darparu gwasanaeth proffesiynol ac effeithiol sydd wedi’i deilwra i ateb anghenion cwsmeriaid unigol.

Yn 2015 dathlodd Contact Centre Cymru 10 mlynedd ers ei sefydlu, ac yn ystod y cyfnod hwnnw gwelwyd twf yn y gwasanaethau a gynigir gan y ganolfan a’r sgiliau sydd gan ei staff i ddiwallu anghenion ei chronfa gynyddol o gleientiaid.

 

Fyddech chi’n hoffi gwybod mwy?

Os hoffech chi wybod mwy am y modd y gall Contact Centre Cymru eich helpu, ewch i wefan Contact Centre Cymru neu ebostiwch general@contactcentrecymru.com. Gallwch hefyd ffonio 01766 772129 i gael rhagor o wybodaeth ac amcanbris heb orfod ymrwymo.