Maint y testun: A A A
Cyferbynnedd:
Gwrando: More about BrowseAloud
Newyddion

Latest Tweets

@TravelineCymru RT If you’re walking up Snowdon, make sure to use the official car-parks. The regular Sherpa bus service links the m… https://t.co/wxBAtSTs9o
@TravelineCymru RT Os ydych am gerdded i fyny'r Wyddfa, defnyddiwch y meysydd parcio swyddogol. Mae gwasanaeth bws Sherpa rheolaidd… https://t.co/xMt45NVu7Q
@TravelineCymru RT 🛠️Engineering works: Chester - Crewe Between the Saturday 15 August and Sunday 23 August. 🚌Buses will replace tr… https://t.co/p2lS1abwIg
@TravelineCymru RT 🛠️Gwaith Peirianyddol: Caer - Crewe Rhwng Dydd Sadwrn 15 Awst a Dydd Sul 23 Awst 🚌Bysiau yn rhedeg yn lle trenau… https://t.co/Sq190Ddcys
@TravelineCymru RT The Heads of the valleys road is closed today Saturday 15th August between Brynmawr and Gilwern (Glanbaiden Roundab… https://t.co/jBRjz7zJc3
Bws Arfordir Llyn Coastal Bus service

Cyflwyno gwasanaeth Bws Arfordir Llŷn

25 Chwefror 2016

Mae Bws Arfordir Llŷn yn wasanaeth bysiau newydd a fydd yn rhedeg ar hyd arfordir y gogledd-orllewin o fis Mawrth. Bydd y gwasanaeth yn dilyn amserlen benodol a bydd hefyd yn cynnig gwasanaeth hyblyg mewn ardaloedd gwledig.

Bydd dau fws yn gwasanaethu 5 lleoliad penodol, sef Aber-soch, Porth Neigwl, Aberdaron, Porthor a Nefyn. Mae’r daflen wybodaeth sydd ar gael yma yn dangos yr amseroedd y bydd y bysiau’n gadael pob un o’r lleoedd hyn. Gall teithwyr ddal y bws, os oes lle ar gael arno, heb gadw lle o flaen llaw. Gellir cludo teithwyr sydd heb gadw lle o’r lleoedd penodol hyn neu gellir eu codi mewn unrhyw leoliad diogel ar hyd y daith dim ond iddynt wneud arwydd ar y bws i stopio. Bydd teithwyr sydd wedi cadw lle yn cael blaenoriaeth.

Mae hwn yn wasanaeth hyblyg, sy’n golygu y gall teithwyr sydd wedi cadw lle o flaen llaw deithio’n ôl ac ymlaen o unrhyw fan sydd yn y rhan o’r map sydd wedi’i lliwio’n binc.

Bydd y gwasanaeth ar gael o 24 Mawrth tan 30 Hydref 2016.

I gael yr holl fanylion am y gwasanaeth yn ogystal â gwybodaeth am sut i gadw sedd, ewch i’r wefan www.bwsarfordirllyn.co.uk.

Pob stori newyddion