Problemau teithio

Bydd y rhannau canlynol o ffyrdd ar gau dros dro rhwng 07:00 a 17:00: 

1. Stryd Dunraven o'i chyffordd gyda Heol Gilfach, tua'r de-ddwyrain am 300 metr.

2. Ffordd Liniaru Canol Tref Tonypandy, o'i chyffordd gyda River View i'w chyffordd gyda Stryd Dunraven.

Llwybr amgen – O ochr ddeheuol y ffordd sy'n cael ei chau, ewch ar hyd Stryd Dunraven, Heol Tylacelyn, A4058, Heol Llwynypia a Stryd De Winton i gyrraedd ochr ogleddol y ffordd sy'n cael ei chau.

Ar gyfer cerbydau sy'n teithio i'r cyfeiriad arall, dilynwch y cyfeiriadau uchod yn y drefn wrthdro.  

Bydd mynediad ar gael i gerddwyr ac i gerbydau'r gwasanaethau brys.

Mae angen y cyfyngiad yma fel bod modd cynnal gwaith ar y ffyrdd sydd mewn cysylltiad â gweithfeydd gwella Canol Tref Tonypandy neu yn eu hymyl. Bydd y ffordd ar gau rhwng 7:00am a 5:00pm ddydd Sul 21 Hydref 2018 neu hyd nes bydd y gwaith wedi'i gwblhau.

Yn ôl