Bydd gorymdeithiau’n tarfu ar rai gwasanaethau ar hyd y ffyrdd canlynol ar 11/11/2018:
Gwybodaeth Cyngor
Caerdydd
Heol Goch, Pentyrch rhwng 14:50pm a 15:20pm o’r gyffordd â Heol y Pentre i’r gyffordd â Berthllwyn.
Penlline Road, Yr Eglwys Newydd rhwng 10:15am a 12:00pm o’r gyffordd â Merthyr Road i’r gylchfan ar y gyffordd â Kelston Road.
Heol Isaf, Radur rhwng 10:30am a 12:30pm o’r gyffordd â Windsor Road i’r gyffordd â Rectory Close, a King’s Road o’r gyffordd â Heol Isaf i’r gyffordd â Taff Terrace.
Lisvane Road rhwng 10:45am a 11:10am o’r gyffordd â Church Road i Glos Coed y Dafarn.
Tŷ’r Winch Road rhwng 11:30am a 12:30pm o Eglwys y Bedyddwyr Llaneirwg (wrth ymyl Mill Lane) i ben draw’r heol wrth ymyl cyffordd y Coach House â Heol Casnewydd.
Rhondda Cynon Taff
Bydd modd i gerddwyr a'r gwasanaethau brys gael mynediad i'r ffyrdd ar unrhyw adeg.
Ffyrdd a Gaiff eu Cau | Lleoliad | Amser | |
CANON STREET | Y stryd gyfan | ABERDÂR | 10:00 – 12:00 |
SGWÂR FICTORIA | Y stryd gyfan | ABERDÂR | 10:00 – 12:00 |
HIGH STREET | (Tua'r de yn unig) O'i chyffwrdd â Seymour Street i'w chyffwrdd â Canon Street | ABERDÂR | 10:00 – 12:00 |
CARDIFF STREET | O'i chyffordd â Victoria Square i'w chyffordd â Cross Street | ABERDÂR | 10:00 – 12:00 |
CARDIFF STREET | O safle'r Clwb Cyn-Filwyr | TONYPANDY | 10:00 – 12:30 |
GELLI ROAD | O'i chyffordd ag Eleanor Street i'w chyffordd a Dunraven Street | TONYPANDY | 10:00 – 12:30 |
DUNRAVEN STREET | O'i chyffordd â Gelli Road i'w chyffordd â De Winton Street | TONYPANDY | 10:00 – 12:30 |
DE WINTON STREET | Y stryd gyfan | TONYPANDY | 10:00 – 12:30 |
STRYD YR EGLWYS | Y stryd gyfan | TONYPANDY | 10:00 – 12:30 |
CARDIFF ROAD | O'i chyffordd â Dyffryn Road i'w chyffordd â Fairfield Lane | Y DDRAENENWEN | 10:30 – 11:30 |
FFORDD LINIARU'R PORTH | O gylchfan Pont y Porth i ffordd gyswllt y Cymmer. | Y PORTH | 10:55 – 11:05 |
GELLIWASTAD ROAD | Y stryd gyfan | PONTYPRIDD | 10:00 – 12:00 |
MORGAN STREET | Y stryd gyfan | PONTYPRIDD | 10:00 – 12:00 |
BRIDGE STREET | Y stryd gyfan | PONTYPRIDD | 10:00 – 12:00 |
GILFACH ROAD | O fynediad Ysgol Gyfun Tonyrefail (gyferbyn â 47 Gilfach Road) i gylchfan Gilfach Road | TONYREFAIL | 10:15 – 10:45 |
GYNOR PLACE | O'i chyffordd â Graig Road i'w chyffordd â'r ffordd heb enw sy'n arwain at Ynyshir Road | YNYS-HIR | 10:00 – 12:00 |
FFORDD HEB ENW RHWNG GYNOR PLACE AC YNYSHIR ROAD | Y stryd gyfan | YNYS-HIR | 10:00 – 12:00 |
YNYSHIR ROAD | O'i chyffordd â'r Ffordd Heb Enw rhwng Gynor Place ac Ynyshir Road a'i chyffordd a Station Road | YNYS-HIR | 10:00 – 12:00 |
STATION ROAD | O'i chyffordd â Ynyshir Road i'w chyffordd â Church Terrace | YNYS-HIR | 10:00 – 12:00 |
HILLSIDE AVENUE | O'i chyffordd â Danygraig Terrace i'w chyffordd â'r Sgwâr | LLANHARAN | 10:00 – 12:00 |
HENSOL ROAD STRYD Y GLYN ROBERT STREET |
O'i chyffordd â Mill Race i'w chyffordd a School Road | MEISGYN | 10:00 – 12:00 |
STRYD Y GLYN | Y stryd gyfan | YNYS-Y-BŴL | 14:30 – 16:30 |
ROBERT STREET | O'i chyffordd â Stryd y Glyn i'w chyffordd â Windsor Place | YNYS-Y-BŴL | 14:30 – 16:30 |
WINDSOR PLACE | O'i chyffordd â Robert Street i'w chyffordd â Penygraig Terrace | YNYS-Y-BŴL | 14:30 – 16:30 |
Bydd rhannau o'r ffordd yn Seymor Streets a strydoedd cyfagos yn cael eu neilltuo er mwyn caniatâu mynediad yn unig: High Street (lôn tua'r de yn unig) o'i chyffordd â Chylchfan Gadlys i'w chyffordd â Seymour Street
Llwybrau eraill:
Aberdâr | Llwybr arall |
Cerbydau sy'n teithio o'r gogledd | O Gylchfan Gadlys, dilynwch yr A4233 a'r A4059 (Ffordd Osgoi Aberdâr) |
Cerbydau sy'n teithio o'r de | O Gylchfan Tinney's, dilynwch Cardiff Street, Cross Street, Bute Street, Sgwâr Fictoria a High Street Nodwch Bydd Heddlu De Cymru yn rheoli traffig sydd wedi'i ddargyfeirio yn ôl yr angen. |
Y DdraenenWen | O'r de-ddwyrain i'r ffordd sydd wedi'i chau, dilynwch Fairfield Lane, Poplar Road a Dyffryn Road tua'r gogledd-orllewin. I gerbydau sy'n teithio'r ffordd arall, newidiwch drefn yr uchod. |
Tonypandy | O'r gogledd i'r ffordd sydd wedi'i chau, dilynwch Llwynypia Road, yr A4119, Cylchfan Tonypandy, yr A4058, Cylchfan Trealaw, Tylacelyn Road a Dunraven Street tua'r de. I gerbydau sy'n teithio'r ffordd arall, newidiwch drefn yr uchod. |
Tonyrefail | O'r dwyrain i'r ffordd sydd wedi'i chau, dilynwch Gilfach Road, Waunrhydd Road, Mill Street, Cylchfan Tretomas, yr A4093 (Parc Eirin), Cylchfan Gilfach Road a Gilfach Road tua'r gorllewin. I gerbydau sy'n teithio'r ffordd arall, newidiwch drefn yr uchod. |
Gwybodaeth am weithredydd
Bws Caerdydd:
Radur (gwasanaeth 63)
Bydd bysiau sy’n gadael canol y ddinas am 09:55, 10:55 ac 11:55 yn teithio mor bell â Danescourt Way (Heol Seddon) yn unig.
Ni fydd bysiau y mae disgwyl iddynt adael Creigiau am 10:45, 11:45 a 12:45 yn gwasanaethu Creigiau na Radur, ac yn hytrach byddant yn dechrau eu taith o Danescourt Way.
Penarth (gwasanaethau 92 a 94)
Mae disgwyl i’r drefn cau ffyrdd ym Mhenarth ddigwydd mewn dau gam.
Bydd gwasanaeth 92 am 09:59, gwasanaeth 94 am 10:12 a gwasanaeth 94 am 12:12 i gyfeiriad Caerdydd yn dilyn eu llwybr arferol i dafarn Cefn Mably (94) / Redlands Road (92) ac yna’n cael eu dargyfeirio drwy Redlands Road, Barry Road a Barons Court cyn parhau ar hyd eu llwybr arferol i ganol y ddinas yn Penarth Road.
Bydd gwasanaeth 94 am 10:00 a 12:00 o Gaerdydd i’r Barri yn parhau i ddilyn ei lwybr arferol i Barons Court ac yna’n cael ei ddargyfeirio drwy Barry Road a Redlands Road i dafarn Cefn Mably cyn dychwelyd i’w lwybr arferol trwy Sili i’r Barri.
Y Barri (gwasanaethau 94, 95, 96A a 100)
Efallai y bydd traffig o gwmpas y Senotaff yn y Barri yn gorfod aros am ychydig am 11:00 wrth i bobl ymdawelu i dalu teyrnged.
Tredelerch (gwasanaeth 45)
Bydd bysiau sy’n gadael canol y ddinas am 10:21 a 10:51 i gyfeiriad Llaneirwg, a bysiau sy’n gadael Llaneirwg i gyfeiriad canol y ddinas am 10:22 a 10:52 yn cael eu dargyfeirio ar hyd New Road i’r ddau gyfeiriad, ac nid ar hyd Wentloog Road a Cae Glas Road.
Pentref Llaneirwg (gwasanaeth 30)
Bydd gwasanaeth 30 sy’n gadael Casnewydd am 10:30 yn dilyn ei lwybr arferol i Heol Casnewydd / Llaneirwg Way ac yna’n cael ei ddargyfeirio ar hyd Llaneirwg Way, Greenway Road, New Road a Heol Casnewydd cyn dychwelyd i’w lwybr arferol.
Yr Eglwys Newydd (gwasanaethau 21, 23, 24 a 25)
Bydd Penlline Road ar gau rhwng 10:15 a 12:00. Yn ystod y cyfnod hwn bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio ar hyd Church Road, Heol Don a Velindre Road i’r ddau gyfeiriad.
Bydd y ffyrdd canlynol yn cael eu cau ar gyfer Sul y Cofio ar 11 Tachwedd 2018, a bydd hynny’n effeithio ar wasanaethau bws:
ABERDÂR
- Bydd bws gwasanaeth rhif 172 sy’n ymadael am 11:00 yn mynd o waelod Monk Street am 11:05 oherwydd bod y brif stryd ar gau.
BLAENAFON High Street 10:00 – 13:00
- Rhwng yr amseroedd hyn, bydd gwasanaeth rhif X24 yn dechrau ac yn gorffen ar Cwmavon Road ac yn defnyddio’r gylchfan i droi’n ôl i gyfeiriad y de.
PONT-Y-PŴL Park Rd / Clarence Street 11:45 – 13:00
- Rhwng yr amseroedd hyn, bydd bws gwasanaeth rhif 15 yn mynd ar hyd Hospital Road a bydd bws gwasanaeth rhif X24 yn mynd ar hyd y ffordd osgoi wrth ymyl Tesco. Os bydd Cylchfan Clarence ar agor, bydd yn cael ei defnyddio i ollwng neu gasglu teithwyr.
PONTNEWYDD New Street / Richmond Road 10:30 – 11:30
- Ni fydd bws gwasanaeth rhif 15 yn gallu mynd drwy Bontnewydd, a bydd yn cael ei ddargyfeirio ar hyd St David's Road.
NEW INN The Highway 10:00 – 12:00
- Efallai y bydd bws gwasanaeth rhif 15 yn gorfod dilyn parêd, felly mae’n bosibl y bydd yn cyrraedd ychydig yn hwyrach na’r disgwyl.
HEN GWMBRÂN Wesley Street / St Dials
- Efallai y bydd bysiau gwasanaeth rhif 6 a gwasanaeth rhif 15 yn gorfod dilyn parêd, felly mae’n bosibl y byddant yn cyrraedd ychydig yn hwyrach na’r disgwyl.
CASNEWYDD
- Bydd bysiau gwasanaeth rhif 15 a gwasanaeth rhif X24 yn gallu mynd i mewn i’r Orsaf Fysiau heblaw am yr adeg pan fydd y parêd yn mynd ar hyd Kingsway / Old Green. Dylech ddisgwyl ychydig o oedi yn ystod y cyfnod hwnnw.
TONYPANDY
- Yn Nhonypandy bydd bysiau sy’n cyrraedd ac yn gadael Gorsaf Fysiau Tonypandy yn cael eu dargyfeirio ar hyd Ffordd Gyswllt Tonypandy.
PONTYPRIDD
- Ym Mhontypridd bydd bysiau’n cyrraedd ac yn gadael y dref drwy gylchfan Sainsbury’s.
BLAENRHONDDA
- Bydd Blaenrhondda ar gau, a dim ond Blaen-cwm y byddwn yn ei wasanaethu.
YR EGLWYS NEWYDD 10:15-12:00
- Bydd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd ar gau ar gyfer parêd, a bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio ar hyd Manor Way.
Hoffai Newport Bus hysbysu ei gwsmeriaid y bydd nifer o wasanaethau’n cael eu dargyfeirio ar y dyddiad uchod er mwyn caniatáu i Orymdaith Sul y Cofio ddigwydd rhwng High Street a Clarence Place.
2A Y Gaer – Bydd gwasanaeth rhif 2A am 10:20 yn gweithredu fel gwasanaeth rhif 2C ar hyd Cardiff Road, i gyfeiriad ac o gyfeiriad canol y ddinas.
6 Alway – O amser y bws cyntaf ymlaen, bydd y gwasanaeth hwn yn mynd ar hyd George Street Bridge, Wharf Road a Chepstow Road i’r ddau gyfeiriad. Bydd y dargyfeiriad hwn mewn grym tan y bws a fydd yn mynd am 12:20.
8A/8C Ringland – O amser y bws cyntaf ymlaen, bydd gwasanaeth rhif 8A/8C yn mynd ar hyd George Street Bridge, Wharf Road a Chepstow Road i’r ddau gyfeiriad. Bydd y dargyfeiriad hwn mewn grym tan y bws a fydd yn mynd am 12:50 ar gyfer gwasanaeth rhif 8C.
15/16 Y Betws – O amser y bws cyntaf ymlaen, bydd gwasanaeth rhif 15/16 yn mynd ar hyd Kingsway dan gylchfan yr Old Green Roundabout, ac yn ailymuno â Malpas Road wrth Gylchfan Harlequin. Bydd y dargyfeiriad hwn mewn grym tan y bws a fydd yn mynd am 12:40 ar gyfer gwasanaeth rhif 15.
19E Malpas – O amser y bws cyntaf ymlaen, bydd gwasanaeth rhif 19E yn mynd ar hyd Kingsway dan gylchfan yr Old Green Roundabout, ac yn ailymuno â Malpas Road wrth Gylchfan Harlequin. Bydd y dargyfeiriad hwn mewn grym tan y bws a fydd yn mynd am 12:50.
27/28 Caerllion – O amser y bws cyntaf ymlaen, bydd gwasanaeth rhif 27/28 yn mynd ar hyd y ffordd osgoi (A4042) dan gylchfan yr Old Green Roundabout ac ar hyd Heidenheim Drive i Llanfrechfa, Pont-hir a College Glade i’r ddau gyfeiriad. Bydd y dargyfeiriad hwn mewn grym tan y bws a fydd yn mynd am 12:30 ar gyfer gwasanaeth rhif 28.
42/43 Moorland Park – O amser y bws cyntaf ymlaen, bydd gwasanaeth rhif 42/43 yn mynd ar hyd George Street Bridge lle bydd yn ailymuno â Corporation Road. Bydd y dargyfeiriad hwn mewn grym tan y bws a fydd yn mynd am 12:30 ar gyfer gwasanaeth rhif 42.
Bydd pob gwasanaeth yn dychwelyd i’r drefn arferol ar ôl yr orymdaith.
Yn ogystal, gofynnir i’n staff barchu dwy funud o dawelwch am 11am er mwyn cofio ac anrhydeddu’r sawl a gollodd eu bywydau er mwyn ein rhyddid ni.
Am 11am, gofynnir i’n gyrwyr barcio’n ddiogel wrth yr arhosfan bysiau agosaf ar hyd llwybr eu gwasanaeth er mwyn parchu’r cyfnod o dawelwch. Hoffem ddiolch i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth.