Bydd gwaith ailadeiladu mawr yn digwydd ar y ffordd gerbydau ar yr A470 drwy Lys-wen yn ystod y gwyliau hanner tymor (28 Hydref – 1 Tachwedd). Bydd y gwaith yn effeithio ar lwybr cyfan gwasanaeth T4 o’r Drenewydd i Gaerdydd.
Yn anffodus, bydd yn rhaid i’r gweithredwr atal y gwasanaeth rhwng Llanfair-ym-Muallt ac Aberhonddu yn ystod yr wythnos dan sylw.
Bydd y gwasanaeth rhwng y Drenewydd a Llanfair-ym-Muallt a rhwng Aberhonddu a Chaerdydd yn rhedeg ar yr amserau arferol ar wahân i’r bysiau sy’n ymadael ar yr amserau a restrir isod.
Nodwch na fydd y bysiau canlynol yn gweithredu:
I gyfeiriad y de:
06:07 – Y Groes i Lanfair-ym-Muallt
06:35 – Y Drenewydd i Lanfair-ym-Muallt
20:10 – Y Drenewydd i Lanfair-ym-Muallt
I gyfeiriad y gogledd:
06:30 – Cyfnewidfa Aberhonddu i Lanfair-ym-Muallt
07:57 – Fel uchod
09:59 – Fel uchod
11:59 – Fel uchod
13:59 – Fel uchod
15:59 – Fel uchod
Bydd bws 16:10 o Gaerdydd yn gorffen ei daith yn Bishop’s Meadow, Aberhonddu
Bydd bws 18:30 o Gaerdydd yn gorffen ei daith yn Bishop’s Meadow, Aberhonddu
Bydd amserlen dydd Sadwrn a dydd Sul yn gweithredu’n ôl yr arfer.