Problemau teithio

Yn dilyn Storm Ciara ar 9/2/2020, mae difrod i reilffyrdd yn dal i effeithio ar rai o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld isod.

 

Dyffryn Conwy

Mae llifogydd wedi achosi llawer o ddifrod i’r traciau. Mae Network Rail wrthi’n asesu hyd a lled y difrod. Bydd bysiau’n teithio yn lle trenau ar hyd y llwybr hwn nes y clywch yn wahanol – mae’r amserlen i’w gweld yma.

 

Arfordir y Cambrian (Machynlleth – Pwllheli)

Mae difrod a achoswyd gan lifogydd yng Nghyffordd Dyfi, rhwng Cyffordd Dyfi a Thywyn, yn Llanaber ac yng Nghricieth yn golygu bod angen gwneud llawer o waith cyn y gellir ailagor y rheilffordd. Amcangyfrifir na fydd y gwaith hwnnw wedi’i orffen cyn dydd Llun 16 Chwefror. Tan hynny, bydd bysiau’n teithio yn lle trenau ar hyd y llwybr hwn – mae’r amserlen i’w gweld yma.

 

Aberystwyth – Machynlleth                         

Mae’r llifogydd yng Nghyffordd Dyfi yn effeithio ar y rheilffordd rhwng Machynlleth ac Aberystwyth hefyd. Bydd bysiau’n teithio yn lle trenau ar hyd y llwybr hwn ddydd Mawrth 11 Chwefror – mae’r amserlen i’w gweld yma.

 

Yn ôl