Problemau teithio

Bws Caerdydd

Bydd Park Road, Yr Eglwys Newydd ar gau dros dro o St Margaret's Road i Pantmawr Road oherwydd bod angen rhoi wyneb newydd ar ddarnau o’r ffordd, rhwng 20:00 nos Fercher 26 Chwefror a 05:00 ddydd Iau 27 Chwefror.

Bydd gwasanaethau 21 a 23 yn cael eu dargyfeirio ar hyd Northern Avenue, Ty'n-y-Parc Road ac Old Church Road i’r ddau gyfeiriad, rhwng siopau’r Eglwys Newydd a Pantmawr Road.

Ni fydd yr arosfannau ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas yn Penlline Court ac wrth ymyl Ysbyty’r Eglwys Newydd, na’r arosfannau ar gyfer bysiau i gyfeiriad canol y ddinas wrth ymyl Ysbyty’r Eglwys Newydd, wrth ymyl Llyfrgell yr Eglwys Newydd (ar Park Road) ac ym Mhlas-y-Llan yn cael eu gwasanaethu.

Dylech ddefnyddio’r arosfannau bysiau wrth ymyl siopau’r Eglwys Newydd, yn Northern Avenue neu yn ne Caer Wenallt yn lle hynny.

Yn ôl