Problemau teithio

First Cymru

O ganlyniad i newidiadau i’r rhwydwaith ffyrdd yn Abertawe, bydd nifer o newidiadau i wasanaethau i mewn ac allan o ganol dinas Abertawe o ddydd Sul 5 Ebrill 2020 ymlaen.

Gwasanaeth 4/4A (Ysbyty Singleton – Campws Singleton – Canol Dinas Abertawe – Treforys – Ysbyty Treforys): Bydd y llwybr o gyfeiriad canol y ddinas i Ysbyty Treforys yn cael ei newid, a bydd yn dilyn Ffordd y Brenin a Stryd y Berllan yn lle Sgwâr y Santes Fair a Rhan Isaf y Stryd Fawr. Yn ogystal, bydd man ymadael y gwasanaeth hwn yn newid yng Ngorsaf Fysiau Abertawe, a bydd gwasanaethau i Dreforys yn ymadael o Arhosfan M.

Gwasanaeth 10 (Campws Singleton – Sgeti – Uplands – Y Strand – Campws y Bae): Bydd y llwybr yn newid ac yn dilyn Stryd Christina, Ffordd y Brenin a Stryd y Berllan i’r ddau gyfeiriad.

Gwasanaeth 11 (Abertawe – Mount Pleasant – Mayhill): Bydd y llwybr yn newid ac yn dilyn Stryd Christina i’r ddau gyfeiriad yn lle Ffordd Belle Vue a Pleasant Street.

Gwasanaethau 12/13 (Abertawe – Mount Pleasant – Townhill): Bydd y llwybr yn newid ac yn dilyn Stryd Christina i’r ddau gyfeiriad yn lle Ffordd Belle Vue a Pleasant Street.

Gwasanaeth 15 (Abertawe – Uplands – Y Cocyd – Waunarlwydd): Bydd y llwybr i mewn i Abertawe yn newid ac yn dilyn Stryd Christina yn hytrach na Craddock Street.

Gwasanaeth 16 (Abertawe – Gors Avenue – Y Cocyd – Waunarlwydd – Tregŵyr – Gorseinon/Pontarddulais): Bydd y llwybr gyda’r nos yn newid ac yn dilyn Stryd Christina i’r ddau gyfeiriad yn lle Ffordd Belle Vue a Pleasant Street.

Gwasanaethau 20/20A/21A/22 (Abertawe – Cilâ – Derlwyn/Dynfant/Y Crwys): Bydd y llwybr i mewn i Abertawe yn newid ac yn dilyn Stryd Christina yn hytrach na Craddock Street.

Gwasanaethau 29/39 (Abertawe – Coleg Gŵyr – Tŷ-coch): Bydd y llwybr i mewn i Abertawe yn newid ac yn dilyn Stryd Christina yn hytrach na Craddock Street.

Gwasanaeth X6 Clipiwr Cymru (Abertawe – Treforys – Pontardawe – Allt-wen/Allt-y-Cham/Ystradgynlais): Bydd y llwybr o gyfeiriad canol y ddinas yn newid ac yn dilyn Ffordd y Brenin a Stryd y Berllan yn lle Sgwâr y Santes Fair a Rhan Isaf y Stryd Fawr.

Gwasanaeth X11 Clipiwr Cymru (Abertawe – Llanelli – Caerfyrddin): Bydd y llwybr o gyfeiriad canol y ddinas yn newid ac yn dilyn Ffordd y Brenin a Stryd y Berllan yn lle Sgwâr y Santes Fair a Rhan Isaf y Stryd Fawr.

Gwasanaeth X13 Clipiwr Cymru (Abertawe – Pontarddulais – Rhydaman): Bydd y llwybr o gyfeiriad canol y ddinas yn newid ac yn dilyn Ffordd y Brenin a Stryd y Berllan yn lle Sgwâr y Santes Fair a Rhan Isaf y Stryd Fawr.

 

Yn ôl