*Bus stops in Wood Street will be closed from Tuesday 28th July onwards due to change of road layout. You can find alternate bus stops for services 8/9, 92, 94 & 95 here*
O ddydd Sul 21 Mehefin ymlaen, bydd Cyngor Caerdydd yn cau nifer o ffyrdd yng nghanol y ddinas yn dilyn y pandemig COVID-19.
- Bydd yr holl ffyrdd ar gyfer Stadiwm Principality ar gau er mwyn galluogi mynediad o orllewin y ddinas ar hyd Stryd Wood a rhan isaf Heol Eglwys Fair i Heol y Porth.
- Fodd bynnag, ni fydd mynediad ar gael ar gyfer dwyrain y ddinas, a bydd angen i bopeth gael ei gyfeirio i mewn i Heol y Brodyr Llwydion.
- ByddHeol y Castell ar gau ar ei hyd, ac ni fyddmodd i unrhywgerbydaugaelmynediadiddigan y bydd yn troi’nestyniad i Heol y Frenhines ac yn troi’nardal i gerddwyr. ByddLôn y Felin ar gau i bob math o draffighefyd.
Cliciwch yma i weld map o’r holl strydoedd a fydd ar gau.
Bws Caerdydd
Cliciwch yma i weld y newidiadau i arosfannau bysiau yng nghanol y ddinas ar gyfer y gwasanaethau y mae Bws Caerdydd yn eu gweithredu.
NAT Group
Cliciwch yma i weld y dargyfeiriadau a fydd ar waith ar gyfer y gwasanaethau y mae NAT Group yn eu gweithredu.
Newport Bus
Bydd gwasanaeth 30 i gyfeiriad Caerdydd yn dilyn ei lwybr arferol i Heol y Tollty ond yna’n mynd yn ei flaen i Stryd Havelock lle bydd yn gorffen.
Wrth deithio i gyfeiriad Casnewydd, bydd yn gadael Stryd Havelock ac yn ailymuno â’i lwybr arferol yn Heol Casnewydd ar ôl teithio ar hyd Heol y Porth, Heol y Tollty, Ffordd Churchill a Rhodfa’r Orsaf.
Ni fydd gwasanaeth 30 yn gwasanaethu Heol y Brodyr Llwydion nes y bydd y trefniadau cau ffyrdd wedi dod i ben (pryd bynnag y bydd hynny).
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Stagecoach yn Ne Cymru
Oherwydd bod ffyrdd ar gau yng Nghaerdydd, bydd gwasanaethau 122 a 124 yn dechrau wrth arhosfan JP yn rhan isaf Heol Eglwys Fair ac yn gorffen yn Tresillian Way.
Bydd gwasanaethau 26, X3, 132, 136, 86, X4 a T4 yn dechrau ac yn gorffen yn Heol y Brodyr Llwydion.
Arhosfan | Gwasanaethau | I gyfeiriad |
JP Rhan Isaf Heol Eglwys Fair (o ddydd Gwener 26 Mehefin ymlaen) |
124 122 |
Creigiau, Tonysguboriau, Tonypandy, Porth, Maerdy |
GH Heol y Brodyr Llwydion |
X3 86 136 T4/X4 |
Cwmbrân, Pont-y-pŵl, Y Fenni/ Henffordd
Pentyrch Pontypridd, Merthyr Tudful, Aberhonddu, Y Drenewydd, Bryn-mawr, Y Fenni |
GE Heol y Brodyr Llwydion |
26 132 |
Caerffili, Coed-duon Porth, Maerdy |