Bydd arosfannau bysiau yn Stryd Wood ar gau o ddydd Mawrth 28 Gorffennaf ymlaen oherwydd bod trefn y ffyrdd yn cael ei newid. Bydd gwasanaethau 8/9, 92, 94 a 95 yn defnyddio’r arosfannau canlynol yn lle Stryd Wood:
Gwasanaeth(au) | Lleoliad newydd |
8 a 9 i gyfeiriad Ysbyty’r Waun | Bydd y bysiau’n aros wrth arhosfan JE Arcêd Wyndham yn lle Tŷ Southgate. |
8 a 9 i gyfeiriad y Bae | Bydd y bysiau’n gwasanaethu ochr ddeheuol Heol y Tollty (arhosfan JL) fel y maent ar hyn o bryd, ac yna Stryd Tudor. Ni fydd y gwasanaethau hyn yn aros mwyach yn Stryd Wood. |
92 a 94 | Bydd y bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Stryd Havelock. |
95 | Bydd y bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Stryd Havelock. |
95 i gyfeiriad Ysbyty’r Waun | Bydd y bysiau’n gollwng ac yn casglu teithwyr yn Stryd Havelock, ac yna’n aros wrth arhosfan JE Arcêd Wyndham hefyd. |
95 o gyfeiriad Ysbyty’r Waun | Bydd y bysiau’n gwasanaethu ochr ddeheuol Heol y Tollty (arhosfan JL) ac yna Stryd Havelock. |