Gŵyl Fwyd Caerffili – Dydd Gwener 26 – Dydd Sadwrn 27 Ebrill
Bydd Heol Caerdydd, Caerffili ar gau o 21:00 ddydd Gwener 26 Ebrill a thrwy'r dydd ddydd Sadwrn 27 Ebrill am fod Gŵyl Fwyd Caerffili yn cael ei chynnal yng nghanol tref Caerffili.
O ganlyniad, ni fydd y safleoedd bysiau canlynol yn cael eu gwasanaethu:
• Banc NatWest
• Sgwâr South Gate
• Mynedfa'r Castell
• Piccadilly, Ffordd Nantgarw
Bydd pob bws yn cael ei ddargyfeirio trwy Stryd Clive tuag at Heol y Cilgant ac yn stopio yng Nghapel y Methodistiaid Wesley.