Problemau teithio

Gwasanaeth T5 TrawsCymru – oedi tan 19 Gorffennaf 2018

O ganlyniad i waith arwynebu ar ffordd yr A487, bydd gwasanaeth Brodyr Richards yn profi oedi mawr o hyd at 20 munud ar lwybr y T5 tan 19 Gorffennaf. O ganlyniad gallai cysylltiadau gael eu colli yn Aberteifi ac Aberaeron.

Mae’n bosibl y bydd teithwyr sydd am deithio y tu hwnt i Aberteifi yn gorfod aros yn Aberteifi am y bws nesaf.

Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Yn ôl