Dyma’r 12fed tro i Gwpan Criced y Byd ICC gael ei gynnal a chartref y bencampwriaeth ryngwladol hon eleni fydd Cymru a Lloegr. Bydd y timau’n cystadlu ar feysydd eiconig, a fydd yn cynnwys yr Oval, Trent Bridge a’r Rose Bowl, rhwng 30 Mai ac 14 Gorffennaf a bydd pedair gêm yn cael eu chwarae yng Ngerddi Sophia, Caerdydd:
Bydd pob un o’r 10 tîm yn chwarae unwaith yn erbyn y naw arall mewn cyfanswm o 25 o gemau. Yna, bydd y pedwar sydd ar y brig yn mynd yn eu blaen i’r gemau cyn-derfynol. Bydd y gêm derfynol yn cael ei chwarae ar faes criced Lord’s yn Llundain ddydd Sul 14 Gorffennaf, ac mae’n siŵr y bydd yn gêm hynod o gyffrous.
Ewch i wefan y digwyddiad i gael rhagor o wybodaeth am Gwpan Criced y Byd ICC yng Ngerddi Sophia.
Ydych chi am deithio i’r digwyddiad hwn?
Gorsaf Caerdydd Canolog yw’r orsaf drenau agosaf i faes Gerddi Sophia. Mae Bws Caerdydd yn gweithredu nifer o wasanaethau rheolaidd rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a Heol y Gadeirlan, sydd wrth ymyl Gerddi Sophia. Mae’r gwasanaethau hynny’n cynnwys rhif 25, 62 a 63.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Os ydych am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus, manylion y gwasanaethau sy’n rhedeg a’u hamseroedd.
Os hoffech ddod o hyd i amserlen fysiau, ewch i’n tudalen Amserlenni. Yma, gallwch chwilio am lwybr bysiau penodol neu’ch lleoliad er mwyn gweld amserlenni gwasanaethau yn eich ardal. Yn ogystal, byddwch yn gallu argraffu’r amserlen er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich taith.
Cerdded a beicio
Gallwch hefyd ddefnyddio ein cynlluniwr taith i ddod o hyd i lwybrau cerdded a beicio er mwyn cyrraedd eich digwyddiad. Os ydych yn byw’n agos, gall cerdded fod yn ffordd wych o weld y golygfeydd a mwynhau’r awyrgylch cyn y digwyddiad!
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Beicio a Cherdded.
Rydym yn cynnig gwasanaeth rhadffôn hefyd. Bydd un o’n cynghorwyr cyfeillgar wrth law i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych am drafnidiaeth gyhoeddus ac i’ch helpu i gynllunio eich taith. Ffoniwch ni ar 0800 464 00 00 yn rhad ac am ddim!