Newyddion

Traveline Cymru Logo

Diolch am eich amynedd...

03 Mehefin 2015

Efallai i chi sylwi bod ein system newydd wedi bod yn achosi rhai problemau i ni yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf.

Ein bwriad wrth ddatblygu’r wefan a’r apiau oedd sicrhau bod ein gwasanaethau cynllunio taith mor syml a hawdd ag sy’n bosibl i’w defnyddio.

Fodd bynnag, wrth symud i’r system newydd, rydym wedi dod ar draws rhai problemau annisgwyl gyda data.

Hoffem ddiolch o galon i bob un o’n cwsmeriaid sydd wedi bod yn amyneddgar gyda ni yn ystod y cyfnod hwn.

Hoffem ymddiheuro hefyd am unrhyw anghyfleustra y mae’r problemau wedi’i achosi wrth i chi geisio defnyddio ein gwasanaethau.

Hoffem eich sicrhau bod mwyafrif y problemau wedi’u datrys erbyn hyn a’n bod yn gweithio’n galed i ddatrys unrhyw broblemau sy’n weddill ynghylch data am brisiau tocynnau. Rydym yn gobeithio y bydd y wybodaeth honno’n ôl fel ag yr oedd o’r blaen erbyn yr hydref.

Rydym wedi ymrwymo i wella ein gwasanaethau’n barhaus er budd ein cwsmeriaid. Pan fydd y broses hon o ddiweddaru data wedi’i chwblhau, bydd y wefan a’r apiau’n fwy ymatebol o lawer ac yn haws o lawer i’w defnyddio, a byddant yn lleihau nifer y troeon y mae’n rhaid i chi glicio er mwyn cael y wybodaeth berthnasol y mae arnoch ei hangen. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach neu os yw’r gwasanaeth newydd yn achosi rhagor o broblemau i chi, mae croeso i chi gysylltu ag ymgynghorwyr ein tîm gwasanaethau i gwsmeriaid drwy ffonio 0871 200 22 33.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon