Maint y testun: A A A
Cyferbynnedd:
Gwrando: More about BrowseAloud

Ffoniwch ni: 0800 464 00 00

Newyddion

Latest Tweets

@TravelineCymru RT #NorthWembley - Virgin Trains customers can use Chiltern Railways and East Midlands Trains via any reasonable route.
@TravelineCymru RT CLEARED: Trains are now running normally between Stockport and Buxton / Sheffield via Hazel Grove following disrupt… https://t.co/injc4Zv51L
@TravelineCymru RT The 12:00 82 Service from Mozart Drive to Port Talbot is not operating due to vehicle breakdown. Apologies for any… https://t.co/9ddyCdGhbX
@TravelineCymru RT #Blackwood Service Update: Due to an engineering concern 10:10 12 Service from Blackwood-New Tredegar will not oper… https://t.co/1kBPnemeTo

2018

Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant Yn Sbardun I Ymgyrch ‘Cyflawni Gyda'n Gilydd’ Stagecoach

25 Med
Gweithgareddau wedi’u cynllunio i helpu i ddathlu a hybu cynhwysiant ac amrywiaeth. Cynhelir ymgyrch Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant o 24-30 Medi, a bydd yn nodi cychwyn menter bedair wythnos ‘Cyflawni Gyda’n Gilydd’ Stagecoach

Rydym yn recriwtio!

17 Med
Mae gennym swyddi rhan-amser i’w llenwi yn ein canolfan gyswllt ym Mhenrhyndeudraeth, Gwynedd. 

Dewch i gwrdd â thîm Traveline Cymru yn un o Ffeiriau’r Glas!

14 Med
Wrth i’r rheini sydd newydd adael yr ysgol baratoi i hedfan dros y nyth ac ymuno â dathliadau Wythnos y Glas yn eu prifysgol, bydd Traveline Cymru yn teithio o gwmpas prifysgolion Cymru er mwyn helpu myfyrwyr i wybod sut mae mynd o le i le.

Rhai newidiadau lleol i’r cynllun sy’n caniatáu i bobl deithio am ddim ar wasanaethau TrawsCymru ar benwythnosau.

13 Med
Mae’r cynllun sy’n caniatáu i bobl deithio am ddim ar wasanaethau TrawsCymru ar benwythnosau yn dal i weithredu ar draws y gwasanaeth T14, ond o ddydd Sadwrn 15 Medi ymlaen bydd yn rhaid i deithwyr lleol sy’n teithio rhwng Abaty Belmont a Henffordd dalu’r prisiau arferol am eu tocynnau bws.

Mae Traws Cymru yn gwneud ambell newid i’w rwydwaith!

30 Aws
Mae Traws Cymru yn gwneud ambell newid i’w rwydwaith! Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yma. 

Blwyddyn brysur wrth i Faes Awyr Caerdydd groesawu miliwn o deithwyr erbyn mis Awst!

30 Aws
Mae Maes Awyr Caerdydd wedi croesawu dros filiwn o deithwyr erbyn mis Awst, sy’n gynnydd o 7% o gymharu â’r llynedd. 

Cael hwyl dros yr haf gyda Stagecoach yn Ne Cymru

27 Gor
Mae Stagecoach yn Ne Cymru wedi lansio tocynnau newydd arbennig mewn pryd ar gyfer gwyliau’r haf.

Angen gwirfoddolwyr! Cysylltu Cymunedau yng Nghymru

24 Gor
Os ydych chi eisiau gwirfoddoli gyda’ch darparwr cludiant cymunedol lleol fel gyrrwr, cynorthwyydd teithio, cyfaill teithio, gweinyddwr neu ymddiriedolwr, gall Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru eich cysylltu.

Gyrwyr bysiau Stagecoach yn cymryd rhan mewn her Cerdded am Oes i godi arian i Aren Cymru

18 Gor
Gyrwyr bysiau Stagecoach yn Ne Cymru yn cyflwyno £1016 i Aren Cymru ar ôl cyflawni her Cerdded am Oes

Stagecoach yn Ne Cymru yn ystod Wythnos Dal y Bws yn hybu teithio ar y bws fel ffordd o wneud y defnydd gorau o amser teithwyr

12 Gor
Ymunodd Stagecoach yn Ne Cymru â’r grŵp trafnidiaeth gynaliadwy, Greener Journeys, i hybu manteision defnyddio’r bws yn ystod Wythnos Dal y Bws, a gynhaliwyd eleni am y bumed flwyddyn.

Y Cerdyn Heneiddio'n Dda

12 Gor
Mae’r Cerdyn Heneiddio’n Dda yn cefnogi pobl hŷn i gynnal eu hannibyniaeth a pharhau i wneud y pethau sydd o bwys iddyn nhw.

Cyfle am swydd allanol gyda’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol: Cyfarwyddwr Interim i Gymru

26 Meh
Mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn chwilio am rywun sydd â phrofiad helaeth o weithio fel uwch-reolwr ac sydd â sgiliau rheoli prosiect cadarn i gyflawni rôl interim am gyfnod o 6 mis o leiaf, yn ystod cyfnod mamolaeth y Cyfarwyddwr.

Cyfle i gael swydd gyda Bus Users Cymru. Rheolwr Rhaglenni

20 Meh
Mae cyfle cyffrous wedi codi i fod yn aelod o dîm Bus Users UK yng Nghymru. Byddai’r swydd am gyfnod penodol o 6 mis gyda’r posibilrwydd o gael swydd barhaol wedyn.

PTI Cymru yn croesawu aelodau newydd i’w fwrdd

13 Meh
Mae PTI Cymru, y corff ymbarél sy’n rhedeg Contact Centre Cymru a Traveline Cymru, sef gwasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cymru am drafnidiaeth gyhoeddus, wedi penodi dau aelod newydd i’w fwrdd cyfarwyddwyr.

Her Feicio Cyclone24 Cymru. Ydych chi am fentro i’r felodrom yn 2018?

13 Meh
Bydd her feicio epig yn digwydd yn Felodrom Cenedlaethol Cymru ar 21 a 22 Hydref eleni, lle bydd tîm o unigolion yn beicio’r naill ar ôl y llall dros gyfnod o 24 awr yn ddi-stop.

Ein Rheolwr Gyfarwyddwr, Jo Foxall, yn cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Cyfarwyddwr y Flwyddyn 2018

30 Ebr
Llongyfarchiadau i’n Rheolwr Gyfarwyddwr, Jo, ar gyrraedd y rhestr fer a’r rownd derfynol yn y categori Cyfarwyddwr Newydd / Datblygol yng Ngwobrau Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru.

Gyrwyr Bysiau Stagecoach Yn Ne Cymru Yn Arwain Y Ffordd Mewn Cynllun I Hybu Gyrru’n Ddiogel Gan Ddefnyddio Tanwydd Yn Effeithlon

18 Ebr
Mae gyrwyr bysiau Stagecoach yn arwain y ffordd mewn rhaglen fyd-eang o fri ar gyfer mesur perfformiad, a hynny am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Anturiaethau wrth deithio yng nghefn gwlad Castell-nedd Port Talbot

21 Maw
Mae gwefan newydd sy’n hyrwyddo Castell-nedd Port Talbot a hygyrchedd yr ardal ar drafnidiaeth gyhoeddus wedi’i lansio, sy’n eich galluogi i ddarganfod harddwch naturiol a rhyfeddodau cudd yr ardal gan ddefnyddio’r gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael.

Gwybodaeth am deithio dros y Pasg

19 Maw
Dylech sicrhau eich bod yn edrych i weld pa amserlenni y bydd eich gwasanaeth yn eu gweithredu dros benwythnos y Pasg, oherwydd bydd llawer o wasanaethau’n gweithredu amserlenni diwrnodau gwahanol. 

Dros 36,000 o bobl yn troi at Traveline Cymru yn ystod y stormydd eira

14 Maw
Llwyddodd Traveline Cymru, y gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, i gadw Cymru i fynd yn ystod y problemau teithio diweddar pan gafodd y cwmni filoedd o alwadau ffôn ac ymholiadau ar-lein.