Newyddion

Traveline Cymru Logo

Traveline Cymru yn dathlu canlyniad “rhagorol” wrth gyrraedd y 5 miliwn

09 Tachwedd 2018

Mae Traveline Cymru, sef y cwmni gwybodaeth am drafnidiaeth yng Nghymru, yn dathlu canlyniadau “rhagorol” ar ôl darparu dros 5 miliwn darn o wybodaeth am deithio i bobl ledled y wlad.

Yn ôl adroddiad diweddar, darparodd gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus Llywodraeth Cymru 5,660,366 darn o wybodaeth i’r cyhoedd yn 2017, gan lwyddo ar yr un pryd i sicrhau cyfradd wych o 99% ar gyfer bodlonrwydd cwsmeriaid.

Trwy gyfres o wasanaethau dwyieithog – sy’n cynnwys rhif rhadffôn, ap ar gyfer dyfeisiau symudol a gwefan – bu’r cwmni yn darparu gwybodaeth hanfodol i bobl yng Nghymru, megis gwybodaeth am oedi, problemau teithio ac amserlenni, gan sicrhau bod pobl yn gallu parhau i deithio o le i le ar draws y wlad.

Mae’r newyddion yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ynghylch partneriaeth newydd sbon y cwmni â Trafnidiaeth Cymru. Bydd y cydweithio hwn yn golygu y bydd Traveline Cymru yn darparu gwasanaeth cwsmer cwbl ddwyieithog i’r sefydliad wrth iddo fwrw ymlaen â’i gynlluniau i weddnewid gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru.

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru: “Rydym wrth ein bodd â’r canlyniadau yr ydym wedi’u sicrhau, ac mae ein llwyddiannau diweddaraf yn brawf o waith caled ein tîm ymroddgar.

“Rydym wedi bod yn darparu gwasanaeth o safon ardderchog i’r cyhoedd yn gyson, ac wedi dangos ein hymrwymiad i’n cwsmeriaid drwy gymryd camau parhaus i wella ac arloesi drwy ddefnyddio technolegau newydd sy’n dod i’r amlwg. Mae sicrhau’r ffigurau rhagorol hyn ochr yn ochr â’n cyfradd orau erioed ar gyfer bodlonrwydd cwsmeriaid yn destun mwy fyth o falchder.

“Dros y blynyddoedd rydym wedi buddsoddi’n helaeth yn ein darpariaeth ddigidol, gan adnabod anghenion ein cwsmeriaid a sicrhau bod eu hanghenion wrth wraidd popeth a wnawn. Edrychwn ymlaen at barhau i sicrhau bod gwybodaeth am drafnidiaeth ar gael yn fwy hwylus ac at sicrhau bod pobl yn gallu parhau i deithio o le i le, heb fod cost ychwanegol ynghlwm wrth hynny.”

Mae Traveline Cymru yn gwmni dielw sy’n seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob gwasanaeth bws a thrên yn y wlad drwy wefan ddwyieithog, ei ganolfan alwadau a chyfres o wasanaethau ar gyfer defnyddwyr ffonau symudol.

 

Ar gyfer ymholiadau gan y wasg, cysylltwch â Shelley Phillips yn jamjar ar 01446 771265/shelley@jamjar-pr.co.uk

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon