Newyddion

Mytravelpass Launch

Gweinidog yn dathlu gwelliant i'r cynllun teithiau rhatach i bobl ifanc, sef FyNgherdynTeithio

18 Chwefror 2019

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, yn ymuno â myfyrwyr yng Ngholeg Cambria, Wrecsam, heddiw (dydd Iau 14eg) i ddathlu gwelliant i'r cynllun teithiau rhatach poblogaidd i bobl ifanc, sef FyNgherdynTeithio.

Mae'r cynllun, sydd wedi datblygu a gwella ers y cynllun peilot yn 2015, bellach yn cynnig gostyngiad o draean oddi ar bris yr holl deithiau mae pobl ifanc rhwng 16 a 21 yn eu gwneud – nes eu bod yn troi'n 22 mlwydd oed.

Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: "Rwyf wrth fy modd yn croesawu'r gwelliant hwn i'r cynllun FyNgherdynTeithio, a fydd yn galluogi i ragor o bobl ifanc fanteisio ar deithiau rhatach.

"Mae'r cynllun wedi bod yn boblogaidd iawn. Gallwn ni olrhain llwyddiant y syniad hwn ers ei ddechrau yn 2014, hyd at yr ehangiad hwn heddiw, drwy edrych ar nifer y cardiau teithio sydd wedi cael eu rhoi.

"Erbyn mis Awst diwethaf, roedd 14,939 o gardiau teithio cyfredol yn cael eu defnyddio. Ers dechrau'r cynllun, mae cyfanswm o 20,953 o bobl ifanc wedi meddu ar gerdyn teithio, ac rydyn ni’n amcangyfrif i 1.344 miliwn o deithiau rhatach gael eu gwneud yn 2017–18. 

"Mae annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio'r bws ar gyfer rhagor o'u teithiau’n cael effaith tymor byr a thymor hir drwy leihau tagfeydd ar y ffyrdd, gwella ansawdd yr aer a gwneud y rhwydwaith bysiau yn rhywbeth mwy deniadol i'r diwydiant bysiau fuddsoddi ynddo.

"Hefyd, mae denu rhagor o bobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth yn hanfodol os ydyn ni'n mynd i sicrhau rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy'n ategu ein holl amcanion Ffyniant i Bawb.

"Byddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda'r diwydiant bysiau a'n partneriaid mewn awdurdodau lleol i sicrhau rhwydwaith bysiau cynaliadwy. Mae hyn yn allweddol er mwyn cyflawni ein hamcanion ar gyfer Cymru sy'n gymdeithasol gyfrifol, yn wyrddach ac yn ffynnu."

 

Ewch i Mytravelpass neu ffonio 0300 200 22 33.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon