Newyddion

Cardiff Council

Llwybr beicio ar wahân cyntaf Caerdydd yn cael ei greu yng nghanol y ddinas

18 Mawrth 2019

  • Bydd y gwaith o greu’r llwybr beicio yn dechrau ddydd Llun 18 Mawrth, a hwn fydd cam cyntaf prosiect sy’n cynnwys pum cam arfaethedig.
  • Bydd y cam cyntaf ar hyd Senghennydd Road yn costio £1.4 miliwn.
  • Ar ôl gorffen y prosiect, bydd gan y ddinas 24 cilomedr o lwybrau beicio a fydd yn cysylltu gogledd, dwyrain, gorllewin a de-orllewin y ddinas â chanol y ddinas a Bae Caerdydd.

Bydd cam cyntaf y prosiect llwybrau beicio yng nghanol Caerdydd, sy’n cynnwys pum cam, yn dechrau ddydd Llun 18 Mawrth a disgwylir y bydd wedi’i orffen erbyn diwedd mis Hydref. Bydd y llwybr beicio’n ymestyn o ben uchaf Senghennydd Road wrth ymyl tafarn y Woodville, heibio i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Theatr y Sherman ac i lawr i Blas Sant Andreas.

Yn ogystal, bwriedir creu llwybrau beicio o Blas Dumfries i Broadway yn y Sblot, ar hyd Rhodfa Lloyd George o Fae Caerdydd i Smart Way, o Erddi Sophia i Landaf, ac o ganol y ddinas i Bont Trelái. Mae Cyngor Caerdydd am i lwybr Senghennydd Road gysylltu canol y ddinas ag Ysbyty Athrofaol Cymru a’r Mynydd Bychan maes o law; bydd ymgynghoriad ynghylch hynny’n dechrau yn ystod yr hydref.

Ar ôl gorffen y prosiect, bydd gan y ddinas 24 cilomedr o lwybrau beicio a fydd yn rhedeg drwy 16 o wardiau. Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi dechrau’n awr ynghylch llwybr beicio Bae Caerdydd. Y bwriad yw ailfodelu’r llwybr troed a’r llwybr beicio sy’n bodoli eisoes, yn ogystal â’r goleuadau traffig a’r groesfan sydd ar Rodfa Lloyd George.

At hynny, bwriedir creu llwybrau beicio pwrpasol yng nghanol y ddinas ar gyfer y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Heol y Castell, Boulevard de Nantes, Stuttgarter Strasse, Plas Dumfries, Rhodfa’r Orsaf a Ffordd Churchill.

Ni ddisgwylir y bydd Senghennydd Road ar gau tra bydd y gwaith yn cael ei gyflawni. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhannau o’r ffordd ar gau dros dro. Pan fydd y gwaith wedi’i orffen, bydd nifer y lleoedd parcio ‘talu ac arddangos’ ar Senghennydd Road yn lleihau o 104 i 25 a bydd nifer y lleoedd parcio i breswylwyr yn lleihau o 43 i 26. Ni fydd y cynllun yn effeithio ar nifer y lleoedd parcio i bobl anabl.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Wales Online

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon