Cyfle i gael swydd: Rheolwr Rhanddeiliaid Cymru yn Transport Focus
31 Gorffennaf 2019Rheolwr Rhanddeiliaid Cymru
Cyflog: £33,463 y flwyddyn ynghyd â buddiannau.
Dychwelwch y ffurflen wedi’i chwblhau at recruitment@transportfocus.org.uk ar ffurf electronig erbyn dydd Llun 12 Awst 2019, am hanner dydd fan bellaf.
Bwriedir cynnal cyfweliadau ar ddydd Mercher, 21 Awst 2019
Mae Ffocws ar Drafnidiaeth yn bodoli i wneud defnyddwyr yn fwy pwerus - hyrwyddwr defnyddwyr trafnidiaeth annibynnol a diduedd Prydain. Cawsom ein sefydlu i ddiogelu defnyddwyr ac rydym yn sefydliad dielw, annibynnol. Dyna’n union sut yr ydym yn gweithredu hyd heddiw i wneud siwrneiau defnyddwyr yn rhwyddach ac yn fwy dibynadwy.
Heddiw, mae mwy o alw amdanom ni nag erioed o'r blaen. Mewn cyfnod o ddryswch llwyr, mae Ffocws ar Drafnidiaeth wedi'i seilio ar dystiolaeth ac mae hynny'n dod o'r trylwyredd rydym yn ei gymhwyso i bopeth a wnawn - p'un a yw'n ymchwilio i foddhad defnyddwyr trafnidiaeth, pwyso a mesur problemau, neu ddwyn sefydliadau pwerus i gyfrif.
Mae hyn yn bosibl oherwydd y bobl ddawnus a medrus sydd gennym yn Ffocws ar Drafnidiaeth. Does unlle tebyg iddo; mae'r ystod o arbenigedd yn golygu y byddwch chi bob amser yn dysgu rhywbeth newydd. Rydym yn angerddol am yr hyn a wnawn. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n gilydd. Mae gennym gydweithwyr ar hyd a lled y wlad ac yn ein swyddfeydd yn Llundain, Manceinion, Caerdydd a Birmingham. Mae pawb yn cydweithio i wneud newidiadau.
Mae'n amser gwych i ymuno â Ffocws ar Drafnidiaeth, wrth i ni fynd i'r afael â heriau newydd. Mae rôl y Rheolwr Rhanddeiliaid yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o'n cynlluniau uchelgeisiol i wneud gwahaniaeth i ddefnyddwyr trafnidiaeth yng Nghymru, gan roi eu diddordebau wrth wraidd penderfyniadau ar bolisïau a datblygu gwasanaethau a defnyddio’u sgiliau iaith i gymryd rhan yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Cliciwch yma i weld y disgrifiad swydd llawn a’r ffurflen gais.