Newyddion

Stagecoach yn cynnal ei seremoni wobrwyo flynyddol i gydnabod gweithwyr sydd wedi serennu

Stagecoach yn cynnal ei seremoni wobrwyo flynyddol i gydnabod gweithwyr sydd wedi serennu

28 Chwefror 2020

  • Mae’r Gwobrau Sêr yn cydnabod y sawl sydd wedi serennu ymysg 24,000 o weithwyr Stagecoach ar draws y DU
  • Cafwyd enwebiadau gan gwsmeriaid a gweithwyr y cwmni
  • Mae’r gwobrau yn cydnabod rhagoriaeth mewn meysydd allweddol sy’n cynnwys gwasanaeth i gwsmeriaid, diogelwch, iechyd a lles, yr amgylchedd, y gymuned ac arloesi
  • Caiff enillwyr eu dewis o ystod eang o fusnesau sy’n ymdrin â gwasanaethau Stagecoach yng Ngorllewin Lloegr, Gorllewin yr Alban, De-orllewin Lloegr, Llundain, Glannau Mersi a De Sir Gaerhirfryn, Cymbria a Gogledd Sir Gaerhirfryn, Manceinion, Swydd Efrog, Dwyrain Canolbarth Lloegr a De Cymru

Mae Stagecoach wedi cyhoeddi enillwyr ei Wobrau Sêr eleni, sef digwyddiad gwobrwyo blynyddol sy’n cydnabod y gweithwyr a’r sêr sydd wedi gwneud mwy na’r disgwyl yn eu gwaith.

Cafwyd enwebiadau gan staff a chwsmeriaid y cwmni, a chyrhaeddodd 32 o unigolion a chwe thîm y rhestr fer ar gyfer pob gwobr. Mae’r gwobrau i weithwyr, a gyflwynir am yr 11eg flwyddyn erbyn hyn, yn cydnabod rhagoriaeth mewn meysydd allweddol sy’n cynnwys gwasanaeth i gwsmeriaid, diogelwch, iechyd a lles, yr amgylchedd, y gymuned ac arloesi.

Stagecoach, sef gweithredwr bysiau mwyaf Prydain sydd hefyd yn rhedeg gwasanaethau tram yn Sheffield, yw un o gyflogwyr mwyaf y sector preifat yn y DU. Mae’n cyflogi 24,000 o bobl yn uniongyrchol ac yn helpu i gynnal 10,000 o swyddi eraill. At ei gilydd, mae Stagecoach yn cynnal un o bob 1,000 o swyddi yn y DU.

Roedd y categorïau fel a ganlyn: Hyrwyddwr Cymunedol, Arwr Iechyd a Lles, Seren Newydd, Arweinydd Ysbrydoledig, Tîm Gorau, Eiliad Dyngedfennol, Hyrwyddwr Profiad Cwsmeriaid, Arwr Diogelwch, Arwr yr Amgylchedd, Perfformiad Rhagorol a Syniad Arloesol.

Cafodd y buddugwyr dlws, gwobr ariannol a chyfle i aros dros nos yng Nghaeredin gyda’u gwesteion.

 

Y Wobr Arwr Diogelwch a noddwyd gan Greenroad

Yr enillydd yw Robert McEwen, Peiriannydd Fflyd, Stagecoach yn Ne Cymru. Dechreuodd ar ei yrfa yn 1992 fel prentis gyda Red & White Services, ac yna bu’n Is-fforman, yn Fforman Dros Dro ac yn Fforman Depo cyn ymgymryd â’i swydd bresennol fel Peiriannydd Fflyd. Mae Rob wedi dylunio system sy’n helpu pobl i fonitro’r graddau y maent yn defnyddio offer â motor, sy’n peri i’r dwylo a’r breichiau ddirgrynu. Mae’n system wych a fydd yn helpu’r cwmni yn wirioneddol i ddiogelu ei weithwyr.

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: “Wrth i ni ddathlu ein pen-blwydd yn 40 oed, mae’n bwysig ein bod yn neilltuo amser i gydnabod y cyfraniad enfawr y mae ein pobl yn ei wneud i gynnal cysylltiadau rhwng cymunedau ledled y DU.

“Roedd safon yr enwebiadau eleni’n uchel iawn, ac mae’n wych gweld brwdfrydedd a balchder gwirioneddol ein pobl a chlywed am enghreifftiau o bobl yn byw’n ôl ein gwerthoedd o ddydd i ddydd. Hoffwn longyfarch yn bersonol ein henillydd yng Nghymru, sef Robert McEwen. Mae’n haeddu cydnabyddiaeth am ei gyfraniad i’n busnes.”

Roedd Stagecoach yn falch iawn o allu cynnwys ei bartneriaid a’i gyflenwyr yn y seremoni eleni. Cafodd Gwobrau Sêr 2020 Stagecoach eu noddi gan Blink, FCL Organisation, Herbert Smith Freehills, Bridgestone, Volvo, Scania, Grayson Thermal Systems, Voith, Optare, PSV Transport Systems a Greenroad. Cafodd y digwyddiad gwobrwyo ei gefnogi gan Make Events.

 

I gael rhagor o wybodaeth am Stagecoach neu lawrlwytho copi o lyfryn yr Enillwyr, ewch i stagecoachgroup.com.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon