Newyddion

Cynllun ‘rheilffordd i loches’ newydd yn caniatáu i fenywod sy’n ffoi rhag camdriniaeth ddomestig deithio am ddim ar drenau

Cynllun ‘rheilffordd i loches’ newydd yn caniatáu i fenywod sy’n ffoi rhag camdriniaeth ddomestig deithio am ddim ar drenau

12 Ebrill 2020

Gall menywod sy’n ffoi rhag camdriniaeth ddomestig wneud cais i deithio am ddim ar drenau er mwyn mynd i loches, a hynny drwy gynllun newydd Cymorth i Fenywod, sef ‘rheilffordd i loches’. Caiff y cynllun ei gefnogi gan Southeastern a Great Western Railway.

Fel rheol, caiff menywod sy’n dianc rhag camdriniaeth ddomestig eu cynghori i chwilio am wasanaethau lloches ymhell i ffwrdd oddi wrth y sawl sy’n eu cam-drin, ond i lawer o fenywod gall cael gafael ar yr arian i dalu am docyn trên fod yn anodd iawn. Mae hynny’n arbennig o wir am fenywod sy’n dioddef camdriniaeth economaidd, nad ydynt efallai’n gallu cael gafael ar arian.

Mae Cymorth i Fenywod yn gweithio gyda Southeastern a Great Western Railway i ddileu’r rhwystr hwn, drwy ganiatáu i fenywod sy’n chwilio am wasanaethau lloches deithio am ddim ar drenau. Bydd y gwasanaethau sy’n aelodau o Cymorth i Fenywod, Imkaan a Cymorth i Ferched Cymru yn gallu defnyddio gwasanaethau archebu pwrpasol er mwyn cael tocynnau am ddim ar gyfer teithiau o fewn rhwydweithiau Southeastern a Great Western Railway, sy’n cynnwys de Cymru, Caint a Llundain.

Cafodd y cynllun ‘rheilffordd i loches’ ei gyflwyno gyntaf gan Southeastern yn 2019, ac mae eisoes wedi helpu nifer o fenywod i ddianc rhag camdriniaeth ddomestig. Cafodd y fenter ei chynnig gan un o reolwyr gorsaf y gweithredwr trenau, sef Darren O’Brien, ar ôl iddo wylio un o raglenni dogfen Dispatches am loches Cymorth i Fenywod yn Reigate a Banstead.

 

Meddai Adina Claire, Cyd-brif Weithredwr Dros Dro Cymorth i Fenywod:

“Rydym yn falch iawn o allu lansio’r cynllun ‘rheilffordd i loches’ er mwyn cynorthwyo menywod sy’n ffoi rhag camdriniaeth ddomestig. Mae cael gafael ar arian yn rhwystr mawr i fenywod sy’n ceisio dianc rhag partner sy’n eu cam-drin, a bydd teithio am ddim ar drenau’n golygu bod gan y menywod hynny un peth yn llai i boeni amdano wrth wynebu argyfwng difrifol.

“Hoffwn ddiolch i Great Western Railway a Southeastern am gefnogi’r fenter hon, a hoffwn annog cwmnïau trenau eraill i gysylltu â Cymorth i Fenywod os hoffent ymuno â’r cynllun a’n helpu i gynorthwyo menywod sy’n ffoi rhag camdriniaeth ddomestig.”

 

Meddai un o reolwyr gorsaf Southeastern, Darren O’Brien:

“Cafodd rhaglen ddogfen Dispatches effaith fawr arna i, a gofynnais a fyddem ni yn Southeastern yn gallu gwneud unrhyw beth i helpu. Pan wnaethom gyflwyno’r cynllun ‘rheilffordd i loches’ y llynedd, roeddem yn gwybod mai cam bach ydoedd i ni ond y byddai’n gwneud gwahaniaeth enfawr i fenywod sy’n dianc rhag camdriniaeth ddomestig. Mae’n wych o beth bod gweithredwyr trenau eraill yn dilyn ein hesiampl.”

 

Meddai Cyfarwyddwr Sicrwydd Busnes GWR, Joe Graham:

“Mae’r diwydiant rheilffyrdd yn golygu llawer mwy na threnau a thraciau’n unig; mae hefyd yn golygu cynorthwyo’r cymunedau y mae’r diwydiant yn eu gwasanaethu.

“Mae llawer o’r rhai sy’n gaeth i’w sefyllfa yn methu â ffoi rhag y sawl sy’n eu cam-drin, oherwydd nad oes ganddynt fodd i wneud hynny. Yn awr, diolch i syniad sydd mor syml, rydym yn gallu helpu i ddarparu’r modd hwnnw.”

 

Mae PTI Cymru hefyd wedi’i benodi yn ganolfan gyswllt genedlaethol ar gyfer y rhaglen ‘Rheilffordd i Loches’. Ers i ganolfan gyswllt ddwyieithog PTI Cymru gael ei sefydlu yn 2005, mae wedi ymdrin â thros dair miliwn o alwadau ar ran ei chleientiaid sy’n cynnwys Traveline Cymru, fyngherdynteithio, Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, NextBike UK a’r Eisteddfod Genedlaethol.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Cymorth i Fenywod

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon