Cau ffordd Road - Canol Dinas Caerdydd - Heol y Castell a Lôn y Felin
21 Mehefin 2020Bydd Heol y Castell a Lôn y Felin ar gau i bob math o draffig o 12 canol dydd ddydd Sul 21 Mehefin hyd nes y clywir yn wahanol.
Bydd cau Heol y Castell yn ei gwneud yn bosibl creu ardal eistedd â tho yn yr awyr agored ar Heol y Castell ac ar lain y ffos o amgylch y castell. Bwriedir i’r ardal eistedd gael ei defnyddio gan fwytai a chaffis lleol. Bydd hynny’n eu helpu i ailagor eu busnesau ac i weini cwsmeriaid y byddent fel arall yn eu colli oherwydd y gofynion cadw pellter cymdeithasol sy’n berthnasol i’w heiddo.
Cyfyngiadau ar draffig
Bydd cyfyngiadau’n cael eu cyflwyno yn rhan isaf Heol Eglwys Fair ac yn Heol y Porth a Stryd Wood. Bydd bysiau, tacsis, beicwyr a cherddwyr yn gallu cael mynediad i’r strydoedd hynny, ond dim ond er mwyn dosbarthu nwyddau neu fynd i’r meysydd parcio y bydd cerbydau preifat yn gallu cael mynediad iddynt.
Bydd preswylwyr sy’n byw yn y strydoedd hyn yn gallu mynd i’w heiddo. Bydd busnesau’n gallu cael nwyddau wedi’u dosbarthu iddynt rhwng 12 canol nos a 10am.
Parcio a Theithio
Bydd cyfleuster Parcio a Theithio Pentwyn yn gweithredu ddydd Llun 22 Mehefin a bydd gwasanaeth bws ar gael (gyda llai o gapasiti nag arfer oherwydd gofynion cadw pellter cymdeithasol) o 7am tan 7pm.
Bydd cyfleuster Parcio a Theithio Stadiwm Pêl-droed Dinas Caerdydd, Lecwydd hefyd yn gweithredu o 7am tan 7pm o ddydd Llun 22 Mehefin ymlaen.
Bydd Neuadd y Sir Bae Caerdydd yn gweithredu gwasanaeth Baycar/parcio a cherdded o 7am tan 7pm o ddydd Llun 22 Mehefin ymlaen.
Tacsis
Oherwydd bod Heol y Castell a Lôn y Felin ar gau, bydd safleoedd tacsis ychwanegol yn cael eu creu ar gyfer gweithredwyr tacsis y naill ochr a’r llall i’r pwynt cau ar Heol y Castell, sef wrth ymyl Gwesty’r Angel ac ar waelod Ffordd y Brenin.
Bydd y Cyngor yn parhau i ymgynghori â gweithredwyr tacsis wrth i bobl ddechrau defnyddio’r safleoedd newydd.
Mynd i ganol y ddinas mewn car
Bydd pob llwybr ar gyfer modurwyr i mewn i ganol y ddinas ar agor yn ôl yr arfer, a bydd modd cyrraedd canol y ddinas o goridor yr M4 gan ddefnyddio Cyffyrdd 30, 32 a 33. Caiff y sawl sy’n ymweld â Chaerdydd eu cynghori i ymgyfarwyddo â’r cyfyngiadau ar gyfer traffig drwodd yng nghanol y ddinas, cyn iddynt deithio.
Beicio
Mae llwybr beicio dros dro newydd wedi’i greu o gyffordd Heol y Gadeirlan/Heol y Bont-faen, dros Bont Treganna, ar hyd Heol y Castell a Heol y Dug ac i fyny i gyffordd Heol y Gogledd-Boulevard de Nantes.
At hynny, bydd cyfleusterau parcio beiciau ychwanegol ar gael yng nghanol y ddinas i’r cyhoedd eu defnyddio, ac mae camau’n cael eu cymryd i archwilio cyfleoedd Parcio a Cherdded ar gyfer disgyblion ysgol.
Parcio
Bydd pob maes parcio preifat a phob lle parcio ar strydoedd yng nghanol y ddinas ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio, ond gyda llai o gapasiti oherwydd gofynion cadw pellter cymdeithasol. Bydd arwyddion digidol yn arwain modurwyr sy’n cyrraedd canol y ddinas i’r lle parcio agosaf.
Bysiau
Bydd yn rhaid i bob cwmni bysiau addasu rhai llwybrau i mewn i ganol y ddinas oherwydd bod Heol y Castell ar gau.